Manylion y penderfyniad
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Cyllid Llywodraeth Leol
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Wedi’i gwblhau
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Defnyddir hwn ble
y bydd Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad i Ddeddfu gan Gynulliad
Cenedlaethol Cymru ar fater a allai ddod o fewn cymhwysedd y Cynulliad fel
arfer.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16:14.
NDM5002 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau’r Bil Cyllid Llywodraeth Leol i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael eu hystyried gan Senedd y DU.
Mae Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 28 Mai 2012 yn unol â Rheol
Sefydlog 29.2(iii)
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Canlyniad y bleidlais:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
11 |
14 |
52 |
Derbyniwyd y
cynnig.
Dyddiad cyhoeddi: 27/06/2012
Dyddiad y penderfyniad: 26/06/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 26/06/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad