Manylion y penderfyniad
Craffu ar Adroddiad Comisiynydd Pobl Hyn Cymru ar gyfer 2010/11
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Wedi’i gwblhau
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
wedi craffu yn gyfnodol ar waith Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.
Comisiynydd Pobl Hŷn
Cymru sy'n gyfrifol am y canlynol:
- hybu ymwybyddiaeth o hawliau a buddiannau
pobl hŷn yng Nghymru;
- herio
gwahaniaethu yn erbyn pobl hŷn yng Nghymru;
- annog arfer
gorau yn y ffordd y caiff pobl hŷn eu trin yng Nghymru; ac
- adolygu’r
cyfreithiau sy’n effeithio ar fuddiannau pobl hŷn yng Nghymru.
Nodir pwerau
statudol a rôl y Comisiynydd yn Neddf Comisiynydd
Pobl Hŷn (Cymru) 2006 ac yn Rheoliadau
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2007.
Mae rhagor o
wybodaeth am waith y Comisiynydd ar gael ar wefan y Comisiynydd.
Gwaith presennol
Cytunodd y Pwyllgor i wahodd y
Comisiynydd i'w gyfarfod ar 20 Ionawr 2016. Prif nod y cyfarfod oedd i glywed barn y
Comisiynydd am y camau a gymerwyd hyd yma i weithredu'r argymhellion yn
adroddiad y Pwyllgor ar ofal
preswyl i bobl hŷn ac adolygiad
y Comisiynydd o gartrefi gofal.
Er mwyn llywio'r sesiwn, gofynnodd y
Pwyllgor am dystiolaeth ysgrifenedig gan y Comisiynydd (llythyr
[PDF, 480KB], amserlen
y digwyddiadau [PDF, 41KB], tystiolaeth
ysgrifenedig [PDF, 609KB]) a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
(llythyr
[PDF, 133KB], y
wybodaeth ddiweddaraf am argymhellion y Pwyllgor yn dilyn ei ymchwiliad i ofal
preswyl i bobl hŷn yng Nghymru [PDF, 170KB]). Mae’r adroddiadau
cynnydd gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Llywodraeth
Cymru i’r Comisiynydd, y cyfeirir atynt yn llythyr y Gweinidog, wedi’u cyhoeddi
yn atodiadau C a D o dystiolaeth ysgrifenedig y Comisiynydd.
Yn
dilyn y sesiwn, ysgrifennodd
y Pwyllgor at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (PDF, 452KB) i
ofyn am sicrwydd ac eglurhad pellach ar nifer o faterion. Anfonwyd copi o’r
llythyr hwn at y Comisiynydd ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cymru gan ei fod yn berthnasol i’w gwaith. Anfonwyd y llythyr hefyd at y Prif
Weinidog gan fod ganddo gyfrifoldeb cyffredinol dros benodiadau cyhoeddus, gan
gynnwys comisiynwyr statudol yng Nghymru.
Ymatebodd
y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (PDF, 267KB) a’r Comisiynydd
(PDF, 248KB) ym mis Mawrth 2016.
Penderfyniadau:
2.1 Ymatebodd y Comisiynydd a’i chydweithwyr i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor ar ei hadroddiad blynyddol.
2.2 Cytunodd y Comisiynydd i rannu adroddiad â’r Pwyllgor ar ymchwil sy’n cael ei wneud gan Brifysgol Abertawe ar gau cartrefi gofal, gwybodaeth bellach am waith ymgynghori arwyddocaol sy’n cael ei wneud ac adroddiad ar ymweliad a wnaed gan ei swyddfa i’r Alban i ystyried effaith Deddf 2007 ar ddarparu cymorth i oedolion a’u hamddiffyn.
Dyddiad cyhoeddi: 11/10/2011
Dyddiad y penderfyniad: 06/10/2011
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 06/10/2011 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad