Manylion y penderfyniad
Motion to approve the General Principles of the Local Government Byelaws (Wales) Bill
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Bil Is-ddeddfau
Llywodraeth Leol (Cymru), Bil Llywodraeth – Cyflwynwyd gan Carl Sargeant, y
Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau. Mae’r Pwyllgor Busnes wedi anfon y Bil
at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.
Gwybodaeth am y Bil
Bwriad y Bil oedd
symleiddio’r gweithdrefnau ar gyfer gwneud a gorfodi is-ddeddfau awdurdod
lleol. Mae’r Bil yn cyflwyno gweithdrefn amgen i’w dilyn gan awdurdodau lleol
wrth wneud nifer o is-ddeddfau.
Cyfnod Presennol
Daeth Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth
Leol (Cymru) 2012, yn gyfraith yng Nghymru
ar 29 Tachwedd 2012. (gwefan allanol)
Cofnod o daith y bil drwy Gynulliad Cenedlaethol
Cymru.
Mae’r tabl a
ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil drwy Gynulliad
Cenedlaethol Cymru.
Gwybodaeth gyswllt
Cysylltu
â’r Cynulliad Cenedlaethol
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.36
NDM4959 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol
(Cymru).
Gosodwyd Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol
gerbron y Cynulliad ar 28 Tachwedd 2011;
Gosodwyd adroddiad Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar
Fil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 30 Mawrth
2012.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 25/04/2012
Dyddiad y penderfyniad: 24/04/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 24/04/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad