Manylion y penderfyniad
The Emotional and Mental Health of Children and Young People - Follow up on the 'Mind over Matter' report - evidence session 2
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
Statws: Wedi’i gwblhau
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Inquiry5
Fe wnaeth
y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg waith dilynol ar ei ymchwiliad i Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl Plant a
Phobl Ifanc yng Nghymru.
Yn dilyn
cyhoeddi ei adroddiad gwreiddiol, sef Cadernid
Meddwl, yn 2018, ymrwymodd y Pwyllgor i gadw llygad ar y ffordd y mae
argymhellion yr adroddiad yn cael eu gweithredu. Isod, amlinellir y gwaith a
wnaeth y Pwyllgor yn y cyfnod cyn cyhoeddi'r adroddiad dilynol, sef Cadernid
Meddwl: Ddwy flynedd yn ddiweddarach ym mis Hydref 2020.
Llinell
amser ers cyhoeddi’r adroddiad Cadernid Meddwl
Ym mis Ebrill
2018, cyhoeddwyd yr adroddiad 'Cadernid Meddwl' (PDF 3.32MB). Cyhoeddwyd ymateb Llywodraeth
Cymru (PDF 1.262KB) ym mis Mehefin 2018, i lywio'r ddadl
yn y Cyfarfod Llawn a ddilynodd ym mis Gorffennaf 2018.
Yn dilyn y
ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gofynnwyd am ymateb diwygiedig gan Lywodraeth Cymru.
Roedd hyn oherwydd bod yna gonsensws trawsbleidiol yn y Siambr nad oedd ymateb
gwreiddiol Llywodraeth Cymru yn bodloni'r uchelgais a amlinellwyd yn adroddiad
ac argymhellion y Pwyllgor.
Mewn
ymateb i’r ddadl yn y Cyfarfod Llawn, ym mis Medi 2018, sefydlodd
Llywodraeth CymruGrŵp Gorchwyl a Gorffen y Gweinidogion o dan gyd-gadeiryddiaeth y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gweinidog Addysg. Cytunodd Llywodraeth Cymru
hefyd i roi diweddariad (PDF 202KB) ar yr argymhellion erbyn mis Mawrth 2019. Ym mis Chwefror
2019, fe wnaeth y Pwyllgor ysgrifennu (PDF 76.1KB) i atgoffa Llywodraeth Cymru am y cais am ymateb
diwygiedig.
Ym mis Mai
2019, fe wnaeth Llywodraeth Cymru roi’r diweddariad y gofynnwyd amdano (PDF 824KB) ynghylch cynnydd mewn
perthynas ag argymhellion y Pwyllgor. Hefyd, cafwyd diweddariad (PDF 655KB) gan Gadeirydd y Rhaglen Law yn Llaw dros Blant a Phobl
Ifanc.
Ym mis Mehefin
2019, cynhaliodd y Pwyllgor sesiynau craffu cyhoeddus i lywio ei waith
dilynol:
20 Mehefin 2019 – Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol a’r Gweinidog Addysg.
26 Mehefin 2019 - Cadeirydd y Rhaglen Law yn Llaw dros Blant a
Phobl Ifanc.
Ym mis Gorffennaf
2019, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ysgrifennu at y Pwyllgor (PDF 397KB) ynghylch y camau y cytunwyd arnynt yn y
sesiwn dystiolaeth lafar.
Ym mis Awst
2019, fe wnaeth y Pwyllgor ysgrifennu at Lywodraeth Cymru (PDF 163KB) yn amlinellu ei gasgliadau a'i
argymhellion yn dilyn y sesiynau craffu dilynol. Ym mis Hydref 2019, fe
wnaeth Llywodraeth Cymru ymateb i lythyr y Pwyllgor. (PDF 471KB)
Ym mis Rhagfyr 2019, cafodd y Pwyllgor lythyr (PDF 1 MB) gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
ynghylch dyfodol y Rhaglen Law yn Llaw dros Blant a
Phobl Ifanc. Mewn ymateb, fe wnaeth y Pwyllgor ysgrifennu (PDF 104KB) yn amlinellu ei gamau nesaf.
Ym mis Chwefror
2020, ceisiodd y Pwyllgor farn gan
randdeiliaid i asesu i ba raddau yr oedd argymhellion ei adroddiad gwreiddiol,
sef Cadernid Meddwl, wedi'u rhoi ar waith. Cynhaliwyd gweithdy i randdeiliaid
lle rhoddodd rhanddeiliaid sgôr coch, melyn neu wyrdd i’r broses o weithredu'r
argymhellion. Hefyd, cyfarfu’r Pwyllgor â rhieni a gofalwyr (PDF 129KB) a chynrychiolwyr Senedd Ieuenctid Cymru. (PDF 143KB)
Allbwn
Terfynol
Ym mis Hydref 2020, fe wnaeth y Pwyllgor gyhoeddi ei
adroddiad, Cadernid
Meddwl: ddwy flynedd yn ddiweddarach.
Cafodd y Pwyllgor ymateb (PDF
119KB) gan y Rhaglen Law yn Llaw dros Blant a Phobl IfancCymru ym mis Tachwedd
2020 ac ymateb (PDF
6MB ) gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2020.
Roedd yr
adroddiad yn destun
dadl yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 16 Rhagfyr 2020.
Penderfyniadau:
3.1
Craffodd y Pwyllgor ar waith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
3.2
Cytunodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ddarparu'r canlynol:
- Crynodeb o Adroddiad Uned Gyflawni'r GIG
o'i Adolygiad Capasiti, gan gynnwys adroddiadau pob Bwrdd Iechyd unigol
a'r adroddiad y seiliwyd y cynlluniau gwella interim arnynt.
- Data rheoli ar wasanaethau
niwroddatblygiadol.
- Y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith
ehangach, gan gynnwys rôl asiantaethau eraill, ar gyfer plant a phobl
ifanc ag anghenion cymhleth iawn sy'n cael eu rhoi mewn ysbytai yn Lloegr.
- Nodyn ar y cynnydd a wneir ar iechyd
emosiynol ac iechyd meddyliol Plant sy'n Derbyn Gofal (Argymhelliad 23 yn
'Cadernid Meddwl').
Dyddiad cyhoeddi: 25/06/2019
Dyddiad y penderfyniad: 20/06/2019
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 20/06/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
Dogfennau Cefnogol: