Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Statws: Wedi’i gwblhau
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd cysylltiadau trafnidiaeth yng
ngogledd Cymru, a rhwng gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr, a Chanolbarth
Lloegr.
2. Yn credu bod y cynigion o fewn "Gweledigaeth ar
gyfer Twf yr Economi yng Ngogledd Cymru" yn cynnig sail ar gyfer gwella
perfformiad economaidd yng ngogledd Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
(a) cyhoeddi cynllun i wella ac uwchraddio cefnffordd yr
A55 i fynd i'r afael â thrafferthion tagfeydd, risg o lifogydd, a diffyg llain
galed mewn rhai ardaloedd;
(b) gweithio gyda Llywodraeth y DU a Bwrdd Uchelgais
Economaidd Gogledd Cymru i sicrhau bod llinell gogledd Cymru yn cael ei
huwchraddio;
(c) gweithio gyda rhanddeiliaid i sefydlu cynllun cerdyn
teithio trafnidiaeth integredig ar gyfer gogledd Cymru;
(d) cyhoeddi cynllun busnes manwl ar gyfer datblygu Metro
Gogledd Cymru.
Dogfen Atodol
Gweledigaeth
ar gyfer Twf yr Economi yng Ngogledd Cymru
Penderfyniadau:
Dechreuodd yr eitem am
15.59
NDM6093 Paul Davies (Preseli Sir
Benfro):
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn cydnabod pwysigrwydd cysylltiadau trafnidiaeth yng ngogledd Cymru, a rhwng
gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr, a Chanolbarth Lloegr.
2.
Yn credu bod y cynigion o fewn "Gweledigaeth ar gyfer Twf yr Economi yng
Ngogledd Cymru" yn cynnig sail ar gyfer gwella perfformiad economaidd yng
ngogledd Cymru.
3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
(a)
cyhoeddi cynllun i wella ac uwchraddio cefnffordd yr A55 i fynd i'r afael â
thrafferthion tagfeydd, risg o lifogydd, a diffyg llain galed mewn rhai
ardaloedd;
(b)
gweithio gyda Llywodraeth y DU a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i
sicrhau bod llinell gogledd Cymru yn cael ei huwchraddio;
(c)
gweithio gyda rhanddeiliaid i sefydlu cynllun cerdyn teithio trafnidiaeth
integredig ar gyfer gogledd Cymru;
(d)
cyhoeddi cynllun busnes manwl ar gyfer datblygu Metro Gogledd Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 22/09/2016
Dyddiad y penderfyniad: 21/09/2016
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 21/09/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd