Manylion y penderfyniad

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd: Dyfodol ynni craffach i Gymru?

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Wedi’i gwblhau

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Cynhaliodd Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ymchwiliad i sicrhau dyfodol ynni craffach i Gymru.

 

Cylch gorchwyl

 

Gan ddechrau o’r sail bod angen i Gymru leihau ei allyriadau carbon ar frys os yw am gyfrannu at atal tymheredd cyfartalog y byd rhag codi mwy na 2° Celsius, a’r angen i wella diogelwch ynni yng Nghymru, byddwn yn anelu at gyrraedd barn ar:

  • sut y gall Cymru sicrhau dyfodol ynni craffach, gan gynnwys cyflenwi ynni carbon isel, rheoli’r galw am ynni a storio ynni, a hynny yn ddigon cyflym i sicrhau’r gostyngiadau angenrheidiol mewn allyriadau;
  • a all y fframwaith rheoleiddio a’r seilwaith presennol sicrhau’r newidiadau hyn yn unol â’r cyflymder angenrheidiol;
  • y camau y mae angen i ddinasyddion a’r sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector eu cymryd; a’r
  • cydbwysedd o ran cymhwysedd datganoledig yn y maes polisi hwn.

 

Dilyn yr ymchwiliad hwn

Gellir cael gwybodaeth am bob cyfarfod lle y cafodd yr ymchwiliad hwn ei drafod o dan y tab ‘Cyfarfodydd’ uchod. 

 

Tystiolaeth gan y cyhoedd

Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth am y testun yma.

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.23

NDM6007 Alun Ffred Jones (Arfon)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar yr ymchwiliad i Ddyfodol Ynni Craffach i Gymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Mawrth 2016.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Dyddiad cyhoeddi: 16/03/2016

Dyddiad y penderfyniad: 16/03/2016

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 16/03/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad