Manylion y penderfyniad
Debate on the Estyn Annual Report
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am
15.18
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y
cyfnod pleidleisio.
NDM5972 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi
adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng
Nghymru ar gyfer 2014-15.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Elin Jones
(Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod adroddiad Estyn yn nodi "mewn
ysgolion sydd ag arweinwyr llwyddiannus, ceir diwylliant cadarn o ddysgu
proffesiynol a ffocws ar wella ansawdd addysgu a dysgu" ac yn credu y
byddai talu premiwm addysgu i staff addysg tra chymwysedig sy'n cynnal eu
datblygiad proffesiynol yn cyfrannu'n sylweddol at godi safonau addysgu.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
7 |
12 |
31 |
50 |
Gwrthodwyd
gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod adroddiad Estyn eleni yn dangos bod
angen gwneud mwy i leihau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion ysgolion
uwchradd sy'n cael prydau ysgol am ddim a'u cyfoedion.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
0 |
50 |
Derbyniwyd
gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Aled Roberts
(Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu ar adeg pan fo nifer y disgyblion mewn
ysgolion cynradd yn cynyddu, pan fo ysgolion yn cau, a phan fo prinder athrawon,
fod dosbarthiadau llai ar gyfer babanod yn bwysicach nag erioed i roi amser i
athrawon addysgu ein plant yn iawn.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
6 |
18 |
26 |
50 |
Gwrthodwyd
gwelliant 3.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5972 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn
nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant
yng Nghymru ar gyfer 2014-15.
2. Yn nodi bod adroddiad Estyn eleni yn dangos bod
angen gwneud mwy i leihau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion ysgolion
uwchradd sy'n cael prydau ysgol am ddim a'u cyfoedion.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
49 |
0 |
0 |
49 |
Derbyniwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 24/02/2016
Dyddiad y penderfyniad: 23/02/2016
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 23/02/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad