Manylion y penderfyniad
Debate on the Children, Young People and Education Committee report on Supply Teaching
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Cynhaliodd
Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru ymchwiliad i waith athrawon
cyflenwi. Cyhoeddwyd yr adroddiad
(PDF, 1.3MB) ar ymchwiliad y Pwyllgor ar 16 Rhagfyr 2015. Cyhoeddwyd ymateb
(PDF, 397KB) Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar 3 Chwefror 2016.
Tystiolaeth gan y cyhoedd
Mae’r
Pwyllgor wedi cyhoeddi ymatebion yr
ymgynghoriad yma.
Arolwg
Fel rhan o'r ymchwiliad, roedd y Pwyllgor hefyd am wybod
a oedd y defnydd o athrawon cyflenwi yn effeithio ar ddisgyblion, ac os oedd,
ym mha ffordd. Cynhaliodd y Pwyllgor arolwg ar gyfer pobl ifanc ac arolwg ar
gyfer rhieni a gofalwyr. Cyhoeddwyd crynodeb
o ganlyniadau'r (PDF, 1MB) arolwg hefyd ar 16 Rhagfyr 2015.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.03
NDM5951 Ann Jones (Dyffryn Clwyd)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar yr ymchwiliad i Waith
Athrawon Cyflenwi, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Rhagfyr 2015.
Gosodwyd
yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 3 Chwefror 2016.
Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 11/02/2016
Dyddiad y penderfyniad: 10/02/2016
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 10/02/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad