Manylion y penderfyniad
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 17.14
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5938 Aled Roberts (Gogledd
Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod argyfwng tai yng Nghymru, gan
nodi yn benodol:
a) bod targedau tai Llywodraeth Cymru ymhell o
argymhellion yr adroddiad Holmans ar adeiladu tai a nifer y tai fforddiadwy
sydd eu hangen erbyn 2031;
b) yr amcangyfrifir bod dros 90,000 o aelwydydd ar
restrau aros tai cymdeithasol;
c) bod llawer o brynwyr tro cyntaf yn parhau i gael
trafferth i fynd ar yr ysgol eiddo; a
d) bod yn rhaid gwneud mwy i amddiffyn tenantiaid
rhag arferion annheg ac i wella ansawdd a diogelwch cartrefi gwael yn y sector
rhentu preifat.
2. Yn credu bod angen mwy o uchelgais i sicrhau bod
pob person yn cael cartref diogel a fforddiadwy, sy'n gallu bod yn ffactor
allweddol o ran hybu iechyd, lles a chyfle, ac y dylai hyn gynnwys:
a) dyblu'r targed ar gyfer tai fforddiadwy i 20,000
yn ystod y Cynulliad nesaf;
b) cynllun rhentu i berchen i helpu prynwyr tro
cyntaf i brynu eu cartrefi eu hunain heb flaendal; ac
c) gweithredu i wella ansawdd a diogelwch cartrefi
yn y sector rhentu preifat a thribiwnlys eiddo preswyl i feirniadu ar
anghydfodau rhwng landlordiaid a thenantiaid.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
4 |
0 |
44 |
48 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Dileu pwynt 1a) a rhoi yn ei le:
bod targedau tai Llywodraeth Cymru ymhell o:
i) argymhellion adroddiad Holmans ynghylch adeiladu
tai a nifer y tai fforddiadwy sydd eu hangen erbyn 2031;
ii) argymhellion adroddiad Sefydliad Bevan, 'The
Shape of Wales to Come', a nifer y tai fforddiadwy sydd eu hangen erbyn 2028; a
iii) y farn a fynegwyd gan Sefydliad Tai Siartredig
Cymru ar fuddsoddi mewn tai cymdeithasol.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
19 |
0 |
27 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Elin Jones
(Ceredigion)
Ym mhwynt 2:
Dileu 'dylai' a rhoi 'gallai' yn ei le.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
20 |
0 |
28 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Elin Jones
(Ceredigion)
Cynnwys isbwyntiau newydd ar ddiwedd pwynt 2:
diwygio cyfraith tenantiaeth i gyflwyno rheolaethau
rhent a rhoi tenantiaethau tymor hwy, mwy diogel ac o ansawdd uwch i rentwyr;
sicrhau bod eiddo gwag yn cael ei ddefnyddio eto;
datblygu cwmnïau tai o dan berchnogaeth gyhoeddus
er mwyn ymateb i angen lleol.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
35 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod angen i Gymru weithredu rhaglen
ddiwygio tai gynhwysfawr i gynyddu'r cyflenwad ac felly gwneud tai yn fwy
fforddiadwy.
Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
25 |
49 |
Fel sy’n
ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais
fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei
ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.
Dyddiad cyhoeddi: 28/01/2016
Dyddiad y penderfyniad: 27/01/2016
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 27/01/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad