Manylion y penderfyniad

P-04-662 It is Hard to Conceive What Life Would Have Become Without my Support Worker

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: I'w ystyried

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Lisa Pritchard ar ôl casglu 664 llofnod.

 

Geiriad y ddeiseb

Ar ôl dwy flynedd o gymorth caled, heriol ac eto, a roddodd foddhad, gan fy ngweithiwr cymorth, rwyf heddiw'n astudio yn y Brifysgol ac yn byw bywyd sy'n llawn cariad, gobaith, hapusrwydd a chwerthin. Rwy'n ceisio rhoi fy hun mewn sefyllfa lle gallaf roi bywyd da i fy nheulu.  Fy ngweithiwr cymorth yw fy nghadarnhad dyddiol i 'Fyw fy Mreuddwydion' o hyd.

Noddir y swydd gan y Rhaglen Cefnogi Pobl.  Heb y rhaglen, ni fyddwn i a fy nheulu wedi cael y cymorth hwnnw a newidiodd ac a achubodd ein bywydau.

Hoffwn i Gymru gyfan wybod beth mae arian Cefnogi Pobl yn ei wneud. Rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i'w gefnogi ac ymrwymo i'w ddiogelu yn y dyfodol, fel y bydd miloedd o bobl yng Nghymru yn cael yr un math o gymorth i arbed eu bywydau ag y cefais i.

Rwy'n ddiolchgar o'r Rhaglen Cefnogi Pobl. Bu o gymorth i arbed fy mywyd i. Os ydych am sicrhau y bydd yr un cymorth ar gael i eraill bob amser, llofnodwch fy neiseb.

 

 Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

• Conol Caerdydd

•Canol De Cymru

 

Penderfyniadau:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros i glywed barn y deisebydd ar lythyr y Gweinidog.

 

Dyddiad cyhoeddi: 02/02/2016

Dyddiad y penderfyniad: 19/01/2016

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 19/01/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad

Dogfennau Cefnogol: