Manylion y penderfyniad

Consideration of powers: Public Services Ombudsman for Wales: Consideration of draft Bill structure

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Cyhoeddwyd yr adroddiad

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Cynhaliodd y Pwyllgor Cyllid ymchwiliad i Ystyried Pwerau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Sefydlwyd rôl yr Ombwdsmon gan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005. Mae’r Ombwdsmon presennol wedi tynnu sylw at bum prif faes o newidiadau i Ddeddf 2005 y mae’n credu byddai’n cryfhau’r rôl. Ystyriodd y Pwyllgor y pum prif faes a ganlyn:

 

  • pwerau ar ei liwt ei hun - byddai hyn yn galluogi'r Ombwdsmon i gychwyn ymchwiliadau ar ei liwt ei hun heb orfod derbyn cwyn am fater yn gyntaf;
  • cwynion llafar - ar hyn o bryd, dim ond cwynion ysgrifenedig y gall yr Ombwdsmon eu derbyn, byddai hyn yn caniatáu i'r Ombwdsmon dderbyn cwynion llafar;
  • ymdrin â chwynion ar draws gwasanaethau cyhoeddus - byddai hyn yn galluogi'r Ombwdsmon i fod â rôl o ran rhoi cyngor ar ymdrin â chwynion ar draws gwasanaethau cyhoeddus;
  • awdurdodaeth yr Ombwdsmon (i gynnwys gwasanaethau iechyd preifat) - byddai hyn yn ymestyn awdurdodaeth yr Ombwdsmon gan ei alluogi / galluogi i ymchwilio pan fo claf wedi derbyn gofal iechyd preifat (wedi'i ariannu gan y claf ac nid y GIG) ar y cyd â gofal iechyd cyhoeddus; a
  • chysylltiadau â'r llysoedd - cael gwared ar y bar statudol a fyddai'n caniatáu i'r Ombwdsmon ystyried achos lle mae posibilrwydd y bydd yn cael ei adolygu gan lys, tribiwnlys neu broses arall (byddai hyn yn rhoi cyfle i achwynwyr benderfynu pa lwybr sydd fwyaf priodol iddyn nhw).

 

Tystiolaeth gan y cyhoedd

 

Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth am y testun yma.

 

Yn dilyn yr ymchwiliad hwn, cynhaliodd y Pwyllgor Cyllid ymgynghoriad ynghylch y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) drafft.

Penderfyniadau:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar strwythur y Bil drafft.

 

6.2 Nododd yr aelodau hefyd y llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

Dyddiad cyhoeddi: 29/07/2015

Dyddiad y penderfyniad: 15/07/2015

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 15/07/2015 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad

Dogfennau Cefnogol: