Manylion y penderfyniad
Agreement to Terms of Reference for Bus Services in Wales
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Wedi’i gwblhau
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Cynhaliodd Pwyllgor Menter a Busnes Cynulliad
Cenedlaethol Cymru ymchwiliad i wasanaethau bysiau a thrafnidiaeth gymunedol
yng Nghymru.
Gofynnodd y
Pwyllgor am farn ynghylch:
- Sefyllfa bresennol y sector bysiau a thrafnidiaeth
gymunedol yng Nghymru, gan gynnwys y rhesymau dros y gostyngiad diweddar
mewn gwasanaethau bysiau cofrestredig a nifer y teithwyr bysiau fel ei
gilydd.
- Effaith gymdeithasol, amgylcheddol ac
economaidd y gostyngiad diweddar yn y gwasanaethau bysiau a nifer y
teithwyr.
- Y manteision arfaethedig, neu fel arall, o
ddatganoli pwerau dros gofrestru bysiau a gynigiwyd ym Mhapur Gorchymyn
Llywodraeth y DU - ‘Pwerau
at Bwrpas: Tuag at Setliad Datganoli sy’n Para’ ym mis Chwefror 2015,
ac a fyddai pwerau pellach i reoleiddio’r diwydiant bysiau yn ddymunol.
- Y camau y dylid eu cymryd i sicrhau bod
gwasanaethau bysiau a thrafnidiaeth gymunedol yn diwallu anghenion Cymru.
Tystiolaeth
gan y Cyhoedd
Cynhaliodd y
Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth am y testun yma.
Penderfyniadau:
6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar Gylch Gorchwyl yr Ymchwiliad i
Wasanaethau Bysiau yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 17/07/2015
Dyddiad y penderfyniad: 15/07/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 15/07/2015 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad
Dogfennau Cefnogol:
- Cyfyngedig Gweld rhesymau dros gyfyngu