Manylion y penderfyniad
Dadl ar adroddiad dilynol y Pwyllgor Menter a Busnes ar Sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Cynhaliodd
Bwyllgor Menter a Busnes Cynulliad
Cenedlaethol Cymru ymchwiliad dilynol i sgiliau gwyddoniaeth, technoleg,
peirianneg a mathemateg (STEM)
Cylch gorchwyl:
- Pa effaith y mae strategaeth Llywodraeth Cymru
Gwyddoniaeth i Gymru a'r Cynllun Cyflenwi wedi'i gael ar sgiliau
gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) yng Nghymru?
- Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran mynd i'r
afael â'r materion a nodwyd yn ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Dysgu i'r
agenda STEM yn 2011, gan gynnwys:
- Digonolrwydd y ddarpariaeth o sgiliau STEM
mewn ysgolion, colegau addysg bellach, sefydliadau addysg uwch a dysgu'n
seiliedig ar waith (gan gynnwys prentisiaethau);
- Gwerth am arian o'r cyllid ychwanegol i
gefnogi a hyrwyddo sgiliau STEM ac a yw'r cyflenwad presennol o sgiliau
STEM yn diwallu anghenion marchnad lafur Cymru;
- Y cyflenwad o weithwyr addysg proffesiynol a
all addysgu pynciau STEM ac effaith Grantiau Hyfforddiant Cychwynnol
Athrawon a'r Rhaglen Athrawon Graddedig ar recriwtio athrawon a gweithwyr
addysg proffesiynol STEM;
- Effeithiolrwydd y cysylltiadau addysg a
busnes rhwng sefydliadau addysg a chyflogwyr STEM.
- A oes unrhyw gynnydd wedi'i wneud o ran mynd
i'r afael â'r safbwyntiau negyddol a'r stereoteip ar sail rhyw sy'n
gysylltiedig â STEM a hyrwyddo arfer da i annog menywod i feithrin sgiliau
STEM a dilyn gyrfaoedd sy'n gysylltiedig â STEM.
- Pa gynnydd sydd wedi'i wneud ar
ddysgu sgiliau STEM drwy addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg?
Tystiolaeth gan y Cyhoedd
Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad
cyhoeddus i gasglu tystiolaeth am y
testun yma.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.18
NDM5637 William Graham
(Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar ei Ymchwiliad i Sgiliau
Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg, a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 25 Medi 2014.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 27/11/2014
Dyddiad y penderfyniad: 26/11/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 26/11/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad