Manylion y penderfyniad
Dadl: Cymorth i Gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 17.14
NDM5613
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) Gwaith Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau
cyhoeddus yng Nghymru yn cefnogi aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog;
b) Y gwaith sy'n mynd rhagddo drwy Grŵp Arbenigol y
Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus ar anghenion Cymuned y Lluoedd Arfog yng
Nghymru;
c) Pecyn Cymorth gan Lywodraeth Cymru i Gymuned y Lluoedd
Arfog yng Nghymru.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi maniffesto y Lleng Brydeinig Frenhinol ar gyfer
2015 a'i dogfen 'Community Covenants - What's Next?'
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant
2 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi'r angen:
a) i amddiffyn cyllid termau real ar gyfer gwasanaethau
iechyd meddwl i gyn-filwyr;
b) am ddarpariaeth gofal cymdeithasol teg i gyn-filwyr y
Lluoedd Arfog; ac
c) am ddarpariaeth breswyl ddigonol a phriodol i
gyn-filwyr y Lluoedd Arfog.
Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant
3 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaeth
di-dor ar gyfer cyn-filwyr ac aelodau sy'n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog sydd
â phroblemau iechyd meddwl a achoswyd gan wasanaeth gweithredol.
Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant
4 – Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r Lluoedd
Arfog i sicrhau bod cefnogaeth ar gyfer milwyr eisoes ar gael ar gyfer y rhai
sydd ei angen pan fyddant yn gadael y gwasanaeth.
Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5613
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) Gwaith Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau
cyhoeddus yng Nghymru yn cefnogi aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog;
b) Y gwaith sy'n mynd rhagddo drwy Grŵp Arbenigol y
Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus ar anghenion Cymuned y Lluoedd Arfog yng
Nghymru;
c) Pecyn Cymorth gan Lywodraeth Cymru i Gymuned y Lluoedd
Arfog yng Nghymru.
2. Yn nodi maniffesto y Lleng Brydeinig Frenhinol ar
gyfer 2015 a'i dogfen 'Community Covenants - What's Next?'
3. Yn nodi'r angen:
a) i amddiffyn cyllid termau real ar gyfer gwasanaethau
iechyd meddwl i gyn-filwyr;
b) am ddarpariaeth gofal cymdeithasol teg i gyn-filwyr y
Lluoedd Arfog; ac
c) am ddarpariaeth breswyl ddigonol a phriodol i
gyn-filwyr y Lluoedd Arfog.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaeth
di-dor ar gyfer cyn-filwyr ac aelodau sy'n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog sydd
â phroblemau iechyd meddwl a achoswyd gan wasanaeth gweithredol.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r Lluoedd
Arfog i sicrhau bod cefnogaeth ar gyfer milwyr eisoes ar gael ar gyfer y rhai
sydd ei angen pan fyddant yn gadael y gwasanaeth.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 12/11/2014
Dyddiad y penderfyniad: 11/11/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 11/11/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad