Manylion y penderfyniad

Legislative Consent Motion on the Wales Bill

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Gwnaeth Deddf Cymru 2014 newidiadau i drefniadau etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gweithredu nifer o'r argymhellion a nodwyd yn adroddiad cyntaf y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru (Comisiwn Silk), a gwneud nifer o newidiadau technegol i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a deddfwriaeth arall, a hynny er mwyn diweddaru'r modd y mae setliad datganoli Cymru yn cael ei weithredu.

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.36

NDM5501 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil Cymru sy’n addasu cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Dyddiad cyhoeddi: 02/07/2014

Dyddiad y penderfyniad: 01/07/2014

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 01/07/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad