Manylion y penderfyniad

Tourism Inquiry (discussion of scoping paper) (12.00-12.15)

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Ydy

Diben:

Cynhaliodd Pwyllgor Menter a Busnes Cynulliad Cenedlaethol Cymru ymchwiliad i dwristiaeth.  

 

Cylch gorchwyl:

  • Asesu'r cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru tuag at sicrhau ymrwymiadau ei Rhaglen Lywodraethu sy'n ymwneud â thwristiaeth, yn ogystal ag addasrwydd y nodau hyn;
  • Asesu uchelgais a gallu nod Llywodraeth Cymru i gynyddu enillion twristiaeth 10% erbyn 2020, yn ogystal â'r cynnydd a wnaed tuag at y nod hwn;
  • Asesu addasrwydd ac effeithiolrwydd y strwythurau a'r gefnogaeth sydd gan Lywodraeth Cymru ar waith ar gyfer y diwydiant twristiaeth yng Nghymru, a’i chynlluniau ar gyfer y dyfodol o ran Cymorth rhanbarthol.

 

Ymhlith y materion a drafodwyd gan y Pwyllgor fel rhan o'r cylch gorchwyl hwn mae'r canlynol:

  • Eglurder a chryfder "brand" twristiaeth Cymru;
  • Effeithiolrwydd ymdrechion Llywodraeth Cymru i gynyddu gwerth y farchnad dwristiaeth ddomestig;
  • Effeithiolrwydd ymdrechion Llywodraeth Cymru i gynyddu gwerth y farchnad dwristiaeth ryngwladol;
  • Perfformiad Croeso Cymru o gymharu ag asiantaethau datblygu twristiaeth yng ngweddill y DU;
  • Llwyddiant gweithgareddau marchnata Croeso Cymru;
  • Gwaith Visit Britain mewn perthynas â Chymru, ac i ba raddau y mae Visit Britain a Croeso Cymru yn cydweithredu;
  • Digonolrwydd ac effeithiolrwydd adnoddau Llywodraeth Cymru sydd wedi'u targedu at hyrwyddo twristiaeth a chefnogi busnesau twristiaeth Cymru, ac a yw'n cynrychioli gwerth da am arian;
  • Sut mae Llywodraeth Cymru yn monitro ac yn gwerthuso effeithiolrwydd ei chefnogaeth twristiaeth a'i gweithgareddau marchnata;
  • Y defnydd a wneir o gyfleoedd ar gyfer cyllid a chymorth arall gan yr UE.
  • Llwyddiant ymdrechion Llywodraeth Cymru i wella ansawdd cynnig twristiaeth Cymru;
  • I ba raddau y mae marchnata a datblygu twristiaeth yng Nghymru yn manteisio i’r eithaf ar asedau diwylliannol, hanesyddol a naturiol Cymru;
  • Effaith digwyddiadau o bwys ar economi twristiaeth Cymru, a llwyddiant ymdrechion Llywodraeth Cymru i fanteisio ar hyn.

 

Tystiolaeth gan y Cyhoedd

Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth am y testun yma.

Penderfyniadau:

8.1 Ystyriodd y Pwyllgor yr eitem hon mewn sesiwn breifat.

 

8.2 Cymeradwyodd y Pwyllgor y cylch gorchwyl ar gyfer yr Ymchwiliad i Dwristiaeth.

 

Dyddiad cyhoeddi: 31/03/2014

Dyddiad y penderfyniad: 26/03/2014

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 26/03/2014 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad

Dogfennau Cefnogol:

  • Cyfyngedig