Manylion y penderfyniad
Legislative Consent Motion on the Water Bill
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Wedi’i gwblhau
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Trosglwyddwyd y memorandwm hwn i’r
Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd gan y Pwyllgor Busnes i’w ystyried. Wrth
wneud hynny, mae dyletswydd ar y Pwyllgor Busnes i bennu amserlen ar gyfer
ystyried y memorandwm.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai’r Pwyllgor
Amgylchedd a Chynaliadwyedd gyflwyno adroddiad ar y memorandwm erbyn 5 Rhagfyr
2013.
Bu’r Cynulliad yn trafod y cynnig
cydsyniad deddfwriaethol yn y Cyfarfod Llawn ar 10 Rhagfyr 2013.
Rhagor o wybodaeth
Os hoffech unrhyw wybodaeth bellach, cysylltwch â
Chlerc y Pwyllgor at PwyllgorAC@cymru.gov.uk
Penderfyniad:
Dechreuodd
yr eitem am 16.01
NDM5303 Alun Davies (Blaenau
Gwent)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno mai
Senedd y DU ddylai ystyried darpariaethau'r Bil Dŵr fel y'i cyflwynwyd yn
Nhŷ'r Cyffredin ar 27 Mehefin 2013, i’r graddau y maent yn dod o fewn
cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18
Medi 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 11/12/2013
Dyddiad y penderfyniad: 10/12/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 10/12/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad