Manylion y penderfyniad
Debate on Higher Education Fees
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
NDM4740 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru:
Yn croesawu cynlluniau Llywodraeth Cymru i ddiwygio’r modd y caiff addysg uwch
ran-amser ei hariannu ac i sicrhau cyllid mwy teg ar gyfer myfyrwyr rhan-amser sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Dileu
‘Yn croesawu’ a
rhoi ‘Yn nodi’ yn ei
le.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Ni chynigiwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau mai
nod y diwygio hwn yw trin myfyrwyr rhan-amser ac amser llawn yn gyfartal.
Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 3 - Nick Ramsay (Mynwy)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori’n llawn â sefydliadau addysg uwch wrth asesu effaith unrhyw newidiadau i’r trefniadau cyllido ar gyfer addysg uwch
ran-amser.
Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36:
NDM4740 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru:
Yn croesawu cynlluniau Llywodraeth Cymru i ddiwygio’r modd y caiff addysg uwch
ran-amser ei hariannu ac i sicrhau cyllid mwy teg ar gyfer myfyrwyr rhan-amser sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau mai nod y diwygio hwn yw trin myfyrwyr rhan-amser ac amser llawn yn gyfartal.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori’n llawn â sefydliadau addysg uwch wrth asesu effaith unrhyw newidiadau i’r trefniadau cyllido ar gyfer addysg uwch ran-amser.
Dyddiad cyhoeddi: 22/06/2011
Dyddiad y penderfyniad: 21/06/2011
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 21/06/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad