Manylion y penderfyniad
Stage 4 Standing Order 26.47 motion to approve the Mobile Homes (Wales) Bill
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Ydy
Diben:
Bil Aelod Cynulliad a gyflwynwyd gan Peter Black
AC yw Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru). Roedd Peter Black AC yn
llwyddiannus mewn balot deddfwriaethol ar 29 Tachwedd 2011. Cafodd ganiatâd gan
y Cynulliad i fwrw ymlaen â’i Fil
ar 1 Chwefror 2012. Mae’r
Pwyllgor Busnes wedi ailgyfeirio’r Bil i’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a
Llywodraeth Leol.
Yn ystod trafodion Cyfnod 2 ar 13 Mehefin 2013,
cytunodd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i ddiwygio enw
byr y Bil. Yr hen enw oedd Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol
(Cymru) a’r enw newydd yw Bil Cartrefi Symudol (Cymru) (gwelliannau 65 a 99).
Gwybodaeth am y Bil
Diben y Bil oedd sefydlu
cyfundrefn drwyddedu ar gyfer safleoedd cartrefi symudol yng Nghymru a gwneud
rhagor o ddarpariaeth mewn perthynas â rheoli’r safleoedd hyn a’r cytundebau ar
gyfer y cartrefi symudol sydd arnynt.
Cyfnod presennol
Daeth Deddf
Cartrefi Symudol 2013 (gwefan allanol) yn gyfraith yng Nghymru
(gwefan allanol) ar 4 Tachwedd 2013.
Cofnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil
drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gwybodaeth gyswllt
Clerc: Helen Finlayson
Rhif ffôn: 0300 200 6565
Cyfeiriad post:
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA
E-bost: cysylltu@cynulliad.cymru
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 18.35
Ar ddiwedd y Cyfnod Adrodd caiff y Gweinidog gynnig bod y Bil yn cael
ei basio yn unol â Rheol
Sefydlog 26.47. Os cytunir ar y cynnig:
Cynnig Cyfnod
4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo’r Bil Cartrefi Symudol
(Cymru)
Derbyniwyd y cynnig yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 26/09/2013
Dyddiad y penderfyniad: 25/09/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 25/09/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad