Manylion y penderfyniad

Debate on the Constitutional and Legislative Affairs Committee's Report on the Inquiry into the Council Tax Reduction Schemes Regulations

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Ymchwiliad ar droed

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Mae’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi cytuno i gynnal ymchwiliad byr i’r ffordd yr aethpwyd i’r afael â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor. Arweiniodd hyn yn y pen draw at ailymgynnull y Cynulliad yn ystod y toriad.

 

Mae cylch gorchwyl yr ymchwiliad fel a ganlyn:

  • Pam yr oedd Llywodraeth Cymru o’r farn nad oedd yn gallu cyflwyno Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor cyn iddi gael y trosglwyddiad ariannol gan y Trysorlys, y cafodd ei gyhoeddi yn y pen draw yn Natganiad Hydref y Canghellor ar 5 Rhagfyr 2012.
  • Faint o gyfathrebu a fu rhwng Llywodraeth Cymru, y Trysorlys a Swyddfa Cymru er mwyn datrys y mater hwn, a natur y cyfathrebu hwn.
  • Pa wersi sydd i’w dysgu o’r mater hwn.

 

Bu’r Pwyllgor yn clywed tystiolaeth gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau yn ei gyfarfod ar 4 Chwefror, a bydd yn cyhoeddi ei adroddiad yn fuan.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.48

NDM5292 David Melding (Canol De Cymru)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar ei ymchwiliad i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mai 2013.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Dyddiad cyhoeddi: 11/07/2013

Dyddiad y penderfyniad: 10/07/2013

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 10/07/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad