Manylion y penderfyniad

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Caiff Aelodau'r Cynulliad ofyn Cwestiynau Llafar y Cynulliad i'r Prif Weinidog am unrhyw fater sy'n dod o fewn eu cyfrifoldeb.

 

Bydd y Prif Weinidog yn ateb cwestiynau bob wythnos. Atebir cwestiynau llafar yn ystod cyfnod a neilltuir ar gyfer Cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn.

 

Bydd y Llywydd yn cynnal balot i benderfynu pa Aelodau a gaiff gyflwyno cwestiynau. Caiff pob Aelod gynnwys ei enw yn y balot.

 

Yna, rhaid i'r Aelod a ddetholir gyflwyno'r cwestiwn llafar o leiaf bum niwrnod cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer ei ateb. Defnyddir cyfrifiadur i ddewis trefn ar hap ar gyfer gofyn y cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 13.01

Gofynnwyd y 15 cwestiwn. Cafodd Cwestiynau 1, 2 ac 11 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd a chafodd cwestiynau 5 a 6 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

Dyddiad cyhoeddi: 21/03/2013

Dyddiad y penderfyniad: 19/03/2013

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 19/03/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Dogfennau Cefnogol: