Manylion y penderfyniad

Motion to suspend Standing Orders in relation to tabling deadlines on the 2 January 2013

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.02

 

NNDM5101 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn unol â Rheol Sefydlog 33.6 a 33.8, yn atal:

 

a) Rheol Sefydlog 12.20(i) er mwyn caniatáu i gynigion ar gyfer dadleuon ddydd Mawrth 8 Ionawr 2013 gael eu cyflwyno ddydd Mercher 2 Ionawr; a

 

b) y rhan honno o Reol Sefydlog 12.59 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod cwestiynau llafar yn cael eu cyflwyno o leiaf bum niwrnod gwaith cyn eu bod i gael eu hateb, er mwyn caniatáu i gwestiynau llafar i’w hateb ddydd Mawrth 8 Ionawr gael eu cyflwyno ddydd Mercher 2 Ionawr 2013.

2. Yn cytuno y bydd y Rheolau Sefydlog hyn yn cael eu hatal ar ddydd Mercher 2 Ionawr yn unig.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Dyddiad cyhoeddi: 22/11/2012

Dyddiad y penderfyniad: 21/11/2012

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 21/11/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad