Manylion y penderfyniad
Debate on the Communities, Equality and Local Government Committee's Inquiry into the Provision of Affordable Housing in Wales
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Wedi’i gwblhau
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Cynhaliwyd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ymchwiliad i ddarpariaeth tai fforddiadwy yng Nghymru ar draws pob deiliadaeth. Roedd cylch gorchwyl yr ymchwiliad fel a ganlyn:
- pa
mor effeithiol yw cymorthdaliadau cyhoeddus, yn enwedig y grant tai cymdeithasol,
o ran cyflenwi tai fforddiadwy;
- a
fanteisir i’r eithaf ar opsiynau amgen i gymorthdaliadau cyhoeddus;
- a
yw Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn defnyddio’u pwerau’n effeithiol i gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy ac i wella’r mynediad atynt;
- a
oes digon o gydweithio rhwng awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, sefydliadau ariannol ac adeiladwyr tai;
ac
- a allai Llywodraeth Cymru hyrwyddo ffyrdd arloesol o gyflenwi tai fforddiadwy, er enghraifft defnyddio ymddiriedolaethau tir cymunedol neu fentrau cydweithredol, yn fwy effeithiol.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 14.34.
NDM5013 Ann Jones (Dyffryn Clwyd)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol: Darpariaeth Tai Fforddiadwy yng Nghymru, a gafodd ei osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Ebrill 2012.
Sylwer: Cafodd ymateb y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth ei osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Mehefin 2012.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 21/06/2012
Dyddiad y penderfyniad: 20/06/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 20/06/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad