Manylion y penderfyniad

Dadl yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil Arfaethedig Aelod ynghylch Asbestos (Adennill Costau Meddygol) (Mick Antoniw)

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.85, gall Aelod geisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil yn eu henw.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16:06.

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Canlyniad y bleidlais:

 

NDM4955 Mick Antoniw (Pontypridd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91:

 

Yn cytuno y caiff Mick Antoniw gyflwyno Bil er mwyn gweithredu'r wybodaeth cyn y balot a gyflwynwyd ddydd Gwener 16 Mawrth o dan Reol Sefydlog 26.90.

 

Mae’r wybodaeth cyn y balot ar gael drwy fynd i:

 

http://www.assemblywales.org/cy/bus-home/bus-legislation/bill_ballots/bill_040.htm

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

54

0

0

54

Derbyniwyd y cynnig.

 

Dyddiad cyhoeddi: 17/05/2012

Dyddiad y penderfyniad: 16/05/2012

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 16/05/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad