Manylion y penderfyniad
Datgarboneiddio Trafnidiaeth - Rheilffyrdd
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Mae Pwyllgor yr
Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i
ddatgarboneiddio trafnidiaeth
Crynodeb
Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru wrthi’n datblygu
Strategaeth Drafnidiaeth nesaf Cymru.
Disgwylir i'r Strategaeth ddiwygiedig gael ei chyhoeddi
ym mis Mai 2020 a bydd yn cynnwys ffocws allweddol ar symud i ddulliau
trafnidiaeth carbon isel i gyrraedd targedau datgarboneiddio Llywodraeth Cymru
a lleihau'r nifer cynyddol o Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer
Mae'r Pwyllgor yn awyddus i ddylanwadu ar ddatblygiad y
Strategaeth.
Cylch gorchwyl
Er mwyn gwneud hyn, bydd y Pwyllgor yn edrych ar y
canlynol:
- A yw'r targedau, y polisïau a'r cynigion ar gyfer lleihau allyriadau
trafnidiaeth (a nodir yn Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel) yn
gyraeddadwy ac yn ddigon uchelgeisiol?
- A yw gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer datgarboneiddio
trafnidiaeth yn ddigon arloesol, yn enwedig o ran hyrwyddo technolegau
newydd?
- Pa gamau sydd eu hangen, a chan bwy, i gyflawni'r targedau, y polisïau
a’r amcanion?
- Sut ddylai Strategaeth Drafnidiaeth newydd Cymru adlewyrchu'r camau
gweithredu sydd eu hangen i ddatgarboneiddio trafnidiaeth?
Penderfyniadau:
3.1 Atebodd Matthew Prosser ac Andrew Kluth gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor
Dyddiad cyhoeddi: 25/11/2019
Dyddiad y penderfyniad: 13/11/2019
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 13/11/2019 - Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Y Bumed Senedd
Dogfennau Cefnogol: