Manylion y penderfyniad

Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Statws: Er gwybodaeth

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Caiff Aelodau'r Cynulliad ofyn Cwestiynau Llafar y Cynulliad i Ysgrifenyddion y Cabinet am unrhyw fater sy'n dod o fewn eu cyfrifoldeb.

 

Bydd Ysgrifenyddion y Cabinet yn ateb cwestiynau unwaith bob pedair wythnos. Atebir cwestiynau llafar yn ystod cyfnod a neilltuir ar gyfer Cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn.

 

Bydd y Llywydd yn cynnal balot i benderfynu pa Aelodau a gaiff gyflwyno cwestiynau. Caiff pob Aelod gynnwys ei enw yn y balot.

 

Yna, rhaid i'r Aelod a ddetholir gyflwyno'r cwestiwn llafar o leiaf bum niwrnod cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer ei ateb. Defnyddir cyfrifiadur i ddewis trefn ar hap ar gyfer gofyn y cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn.

 

Yn sgil ad-drefnu’r Cabinet ar 13 Rhagfyr 2018, y Gweinidog Addysg fydd bellach yn ateb cwestiynau ar y rhan fwyaf o’r materion yn y portffolio hwn

Penderfyniadau:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

 

Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 1, 5 a 9 gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

Dyddiad cyhoeddi: 09/02/2017

Dyddiad y penderfyniad: 08/02/2017

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 08/02/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Dogfennau Cefnogol: