Manylion y penderfyniad

Ymchwiliad i addasiadau yn y cartref - Sesiwn dystiolaeth 13

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Mae’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol wedi cynnal ymchwiliad i Addasiadau yn y Cartref.

 

Cylch Gorchwyl

 

·         Bydd cylch gorchwyl yr ymchwiliad yn ystyried y canlynol:

·         Pam bod yr amser a dreulir yn dosbarthu cymhorthion ac addasiadau a ariennir

·         gan Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl yn amrywio’n sylweddol ledled Cymru;

·         A wnaed cynnydd digonol wrth weithredu argymhellion adroddiad y Pwyllgor

·         Cyfle Cyfartal yn 2009 ar addasiadau yn y cartref;

·         Pa effaith y mae gostyngiad mewn adnoddau ar gyfer tai yn debygol o’i chael ar

·         ddarparu addasiadau yn y cartref;

·         A yw Llywodraeth Cymru yn monitro’n effeithiol y modd y mae gwasanaethau

·         addasu yn cael eu darparu; a

·         Beth mwy sydd angen ei wneud i wella gwasanaethau addasu yn y cartref yng Nghymru.

Penderfyniadau:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Shelter Cymru.

 

Dyddiad cyhoeddi: 25/03/2013

Dyddiad y penderfyniad: 21/03/2013

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 21/03/2013 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad

Dogfennau Cefnogol: