Manylion y penderfyniad

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Wedi’i gwblhau

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

Diben:

Dyma gyfle i gyflwyno cyfarfodydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol. Gall y rhan hon gynnwys unrhyw faterion ymarferol neu hysbysiadau ar gyfer y cyfarfod, yn ogystal ag ymddiheuriadau a anfonwyd gan Aelodau'r Pwyllgor a manylion ynghylch unrhyw Aelodau a fydd yn dirprwyo.

Penderfyniadau:

1.1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau, y tystion ac aelodau’r cyhoedd i’r cyfarfod.

 

1.1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Rhodri Glyn Thomas a Peter Black ar gyfer eitemau 2 a 3, o gofio eu swyddogaethau ar Gomisiwn y Cynulliad.

 

1.1.3 Croesawodd y Cadeirydd Alun Ffred Jones ac Eluned Parrott i’r cyfarfod, a oedd yn dirprwyo ar eu rhan, yn y drefn honno, yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.

 

1.1.4 Croesawodd y Cadeirydd Peter Black a Rhodri Glyn Thomas i’r cyfarfod ar gyfer eitem 4, sef Ystyried Adroddiad y Pwyllgor ar yr Ymchwiliad i Ddarparu Tai Fforddiadwy.

 

Dyddiad cyhoeddi: 20/03/2012

Dyddiad y penderfyniad: 15/03/2012

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 15/03/2012 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad