Manylion y penderfyniad
Education Otherwise than At School - evidence session 7 - POSTPONED
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
Statws: Wedi’i gwblhau
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Cynhaliodd
y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ymchwiliad i'r ystod o ddarpariaeth Addysg Heblaw yn yr Ysgol (EOTAS) gan
gynnwys Unedau Cyfeirio Disgyblion. Roedd yn canolbwyntio'n benodol ar:
- Y cymorth sydd ar gael i blant a phobl ifanc sydd
mewn perygl o addysg heblaw yn yr ysgol, gan gynnwys drwy eu gwahardd o
ddarpariaeth brif ffrwd, a’r rhesymau dros y cymorth hwn;
- Pa mor effeithiol y caiff rhieni gymorth a’u cynnwys
drwy gydol proses addysg heblaw yn yr ysgol;
- Yr amrywiad mewn cyfraddau addysg heblaw yn yr ysgol
i blant a phobl ifanc â nodweddion penodol (megis dysgwyr ag anghenion
addysgol arbennig neu sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim) a
chanlyniadau hyn;
- Lefelau’r cymorth ariannol sydd ar gael i gefnogi
plant a phobl ifanc sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol, a’r rhai sydd
mewn perygl o’i chael, ac a yw hyn yn cynrychioli gwerth am arian;
- Cyfrifoldeb ac atebolrwydd am addysg disgyblion sy'n
dod yn rhai sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol;
- Cyrhaeddiad plant a phobl ifanc sy’n cael addysg
heblaw yn yr ysgol;
- Canlyniadau a llesiant plant a phobl ifanc sy’n cael
addysg heblaw yn yr ysgol;
- Ansawdd y cymorth a roddir i blant a phobl ifanc yn
yr ystod o ddarpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol;
- Cymorth datblygiad proffesiynol i staff unedau
cyfeirio disgyblion, gan gynnwys y rhai sy'n darparu addysg yn y cartref;
- Y risgiau posibl i blant a phobl ifanc sy’n cael
addysg heblaw yn yr ysgol fel rhwystrau cynyddol i gael gafael ar gymorth
iechyd meddwl, mwy o risg o ymwneud â throsedd a'r system cyfiawnder
troseddol megis 'llinellau cyffuriau';
- Materion eraill sydd â chysylltiad agos ag addysg
heblaw yn yr ysgol, er enghraifft symudiadau wedi’u rheoli, a dadgofrestru
disgyblion.
Roedd ymchwiliad y
Pwyllgor yn cynnwys hyfforddiant mewn cartrefi unigol ond nid oedd yn
canolbwyntio ar fater addysg ddewisol yn y cartref ar wahân.
Blog
Ymchwiliad
i Addysg Heblaw yn yr Ysgol
Sesiwn dystiolaeth |
Dyddiad, Agenda a Chofnodion |
Trawsgrifiad |
Sesiwn dystiolaeth |
1.
Sesiwn dystiolaeth Ann
Keane, Cyn-gadeirydd grŵp gorchwyl a gorffen EOTAS Llywodraeth Cymru
(daeth y grŵp i ben ar ddechrau 2017) Yr
Athro Brett Pugh, Cadeirydd grŵp cyflawni Llywodraeth Cymru ar gyfer
EOTAS (y grŵp presennol) |
|||
2.
Comisiynydd Plant Cymru Sally
Holland, Comisiynydd Plant Cymru (trwy gynhadledd fideo) Jane
Houston, Cynghorydd Polisi - Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru (trwy gynhadledd
fideo) |
|||
3.
Estyn Jassa
Scott, Cyfarwyddwr Strategol – Estyn Dyfrig
Ellis, Cyfarwyddwr Cynorthwyol – Estyn Denise
Wade, Arolygydd Ei Mawrhydi - Estyn |
|||
4.
Cynrychiolwyr o undebau athrawon Mairead
Canavan – Ysgrifennydd Rhanbarth Bro Morgannwg ac aelod o Weithrediaeth yr
NEU Tim
Cox – Swyddog Polisi a Gwaith Achos Cymru, Cymdeithas Genedlaethol yr
Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau (NASUWT) Dilwyn
Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol - Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru
(UCAC) |
|||
5.
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru Sharon
Davies, Pennaeth Dysgu, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ac yn cynrychioli
Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru Nick
Williams, Cyfarwyddwr Addysg, Cyngor Dinas a Sir Abertawe ac yn cynrychioli
Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru David
Hopkins, Pennaeth Addysg Dros Dro - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru |
|||
6.
Y Samariaid a Mind Cymru Sarah
Stone, Cyfarwyddwr Gweithredol Cymru, y Samariaid Liz
Williams, Swyddog Polisi a Chyfathrebu, y Samariaid Dr
Ian Johnson, Rheolwr, Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc - Mind Cymru |
Roedd y Gweinidog Addysg i fod i roi tystiolaeth ar 19
Mawrth 2020, ond yn sgil y pandemig COVID-19, roedd angen i'r Pwyllgor ail-bwrpasu'r
sesiwn hon. Yn lle’r sesiwn, ysgrifennodd
(PDF 272KB) y Pwyllgor at y Gweinidog Addysg i gael y wybodaeth ddiweddaraf yn
ysgrifenedig. Ar 16 Hydref 2020, ymatebodd
(PDF 684KB) y Gweinidog Addysg.
Ymgysylltu â'r cyhoedd
Fel rhan o'n hymchwiliad, fe ddatblygwyd arolwg i sicrhau
bod teuluoedd sy’n defnyddio EOTAS a staff sy'n gweithio mewn darpariaethau
EOTAS yn cael rhannu eu sylwadau a'u profiadau a chyfrannu i’r ymchwiliad
ehangach.
Rydym wedi llunio crynodeb (PDF 194KB) o'r canlyniadau.
Ar
28 Tachwedd 2019, ymwelodd aelodau’r Pwyllgor â thri lleoliad sy’n cefnogi
plant a phobl ifanc sy’n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS). Roedd y
lleoliadau hyn ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Chaernarfon.
Rydym wedi llunio crynodeb (PDF 171KB) o'r canlyniadau.
Allbwn
Ar 23 Mawrth 2021, ysgrifennodd
(PDF 217KB) y Pwyllgor at y Gweinidog Addysg yn tynnu sylw at yr egwyddorion
allweddol sy'n deillio o'r dystiolaeth a gafwyd ar gyfer yr ymchwiliad ar
Addysg Heblaw yn yr Ysgol.
Ymatebodd
(PDF, 258KB) Llywodraeth Cymru i ohebiaeth y Pwyllgor ar 31 Mawrth 2021.
Dyddiad cyhoeddi: 25/03/2020
Dyddiad y penderfyniad: 19/03/2020
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 19/03/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd