Manylion y penderfyniad
Correspondence with the Cabinet Secretary for Communities and Children in relation to violence against women
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd
Statws: Wedi’i gwblhau
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Inquiry5
Mae'r Pwyllgor
Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi cynnal ymchwiliad ôl-ddeddfu
i Ddeddf
Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (y
Ddeddf).
Roedd rhagflaenydd y Pwyllgor yn y Pedwerydd Cynulliad, y
Pwyllgor
Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, yn gyfrifol am graffu ar y Bil
Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) cyn iddo gael
ei ailenwi a dod yn Ddeddf. Cyflwynodd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a
Llywodraeth Leol adroddiad ar y Bil ym mis
Tachwedd 2014.
Cylch gorchwyl
Edrychodd y Pwyllgor ar y cynnydd a wnaed o ran
gweithredu darpariaethau'r Ddeddf a'i effaith hyd yma. Yn benodol, ystyriodd y
Pwyllgor:
- I ba
raddau y mae'r dull o fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin
domestig a thrais rhywiol yn gwella o ganlyniad i'r rhwymedigaethau yn y
Ddeddf?
- Beth yw'r
dulliau mwyaf effeithiol o gasglu safbwyntiau a phrofiadau goroeswyr? A
oes trefniadau ar waith i gasglu'r profiadau hyn, ac i ba raddau y caiff y
wybodaeth ei defnyddio i helpu fel sail i weithredu darpariaethau'r
Ddeddf?
- A yw'r
rhai sy'n goroesi camdriniaeth yn dechrau profi ymatebion gwell gan
awdurdodau cyhoeddus o ganlyniad i'r Ddeddf, yn enwedig y rhai sydd angen
gwasanaethau arbenigol?
- A oes gan
y Cynghorydd Cenedlaethol ddigon o bŵer ac annibyniaeth ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod
y Ddeddf yn cael ei gweithredu?
- I ba
raddau y mae'r canllaw arfer da i berthnasau iach yn dylanwadu'n
llwyddiannus ar y gwaith o ddatblygu dull ysgol gyfan i herio trais yn
erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol?
Casglu
tystiolaeth
Cafodd y Pwyllgor 36
o gyflwyniadau ysgrifenedig, cynhaliodd chwe sesiwn tystiolaeth lafar ac
ymwelwyd â 4 o brosiectau i gwrdd â darparwyr gwasanaethau a goroeswyr.
Adroddiad
Cyhoeddodd y Pwyllgor ei
adroddiad: A
yw Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru)
2015 yn gweithio? (PDF 1.79 MB) yn
Rhagfyr 2016.
Wrth gyhoeddi’r adroddiad,
dywedodd John
Griffiths AC, Cadeirydd y Pwyllgor:
“Canfuwyd, er y bydd y Ddeddf
yn cyflawni gwelliannau o ran y ffordd y mae awdurdodau cyhoeddus yn cefnogi
goroeswyr ac yn atal cam-drin, mae angen gwneud rhai gwelliannau ymarferol er
mwyn sicrhau bod y Ddeddf yn cyflawni ei nod o wella ymateb y sector cyhoeddus
i drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.”
Mae fersiwn gryno o’r adroddiad
hefyd wedi’i chyhoeddi, a gellir ei darllen yma.
Gosododd Llywodraeth Cymru ei
hymateb i’r adroddiad (PDF 183 KB) yn Chwefror 2017, cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn
ar 15 Chwefror 2017.
Gwaith dilynol
Yn dilyn cyhoeddi adroddiad
Swyddfa Archwilio Cymru (PDF, 7.07MB) ar y Ddeddf, cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn
dystiolaeth ddilynol ar 6 Chwefror 2020.
Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn
graffu ychwanegol gyda’r Gweinidog ar 12 Chwefror 2020.
Diweddariad
Mae diweddariadau cyfnodol Llywodraeth Cymru ar gyflymder
gweithredu’r Ddeddf i’w gweld isod.
Os bydd y Pwyllgor yn penderfynu cynnal rhagor o sesiynau
tystiolaeth yn y dyfodol, bydd yn cyfleu hyn ar ei dudalen hafan a thrwy ei
gyfrif Twitter.
Cadw mewn cysylltiad
Os hoffech wybod rhagor am waith y Pwyllgor Cydraddoldeb,
Llywodraeth Leol a Chymunedau, ewch i’w dudalen
hafan, dilynwch ei gyfrif
Twitter neu cysylltwch â'r tîm sy'n cynorthwyo'r Pwyllgor yn SeneddCymunedau@cynulliad.cymru
Penderfyniadau:
4.1.a
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a
Phlant mewn perthynas â thrais yn erbyn menywod.
Dyddiad cyhoeddi: 05/05/2017
Dyddiad y penderfyniad: 03/05/2017
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 03/05/2017 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd
Dogfennau Cefnogol: