Manylion y penderfyniad
P-04-664 Develop Tynton Farm as a Visitor and Information Centre
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd, Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: I'w ystyried
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Martyn Hooper ar ôl casglu
112 Llofnod
Geiriad
y ddeiseb
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod cyfraniad
pwysig Dr Richard Price nid yn unig i'r Oes Oleuedig yn y ddeunawfed ganrif,
ond hefyd i'r broses o greu'r byd modern yr ydym yn byw ynddo heddiw, a
datblygu ei fan geni a chartref ei blentyndod yn ganolfan wybodaeth i ymwelwyr
lle gall pobl o bob cenedl ac oed ddarganfod sut mae ei gyfraniadau sylweddol i
ddiwinyddiaeth, mathemateg ac athroniaeth wedi dylanwadu ar y byd modern.
Gwybodaeth
ychwanegol
Mae Fferm Tynton yn Llangeinwyr, man geni Dr Richard
Price a chartref ei blentyndod, ar werth. Wedi mynd â'i ben iddo, mae'r fferm
bellach wedi cael ei hadfer mewn modd sensitif ac mae bron pob un o'r
nodweddion gwreiddiol wedi cael eu cadw. Mae Cymdeithas Richard Price yn
ymwybodol bod y tŷ yn denu ymwelwyr o bob cwr o'r byd a chaiff hyn ei
gadarnhau gan Lyfr Ymwelwyr y perchennog blaenorol a lofnodwyd gan ymwelwyr â'r
fferm. Byddai lleoliad a tharddiad y fferm yn ei gwneud yn ganolfan ddysgu
ddelfrydol lle gall pobl ddarganfod sut berson pwysig ydoedd ac y mae'n parhau
i fod. Mae hwn yn gyfle i brynu'r eiddo
am bris y farchnad a helpu i ddathlu llwyddiannau cawr deallusol ac apostol
rhyddid Cymru.
Etholaeth
a Rhanbarth y Cynulliad
• Ogwr
• Gorllewin De Cymru
Penderfyniadau:
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb ac, o ystyried barn y
deisebydd bod y cyfle i gyflawni nod y ddeiseb wedi'i golli, cytunwyd i gau'r
ddeiseb gan ddiolch i'r deisebydd am gymryd rhan yn y broses ddeisebu.
Dyddiad cyhoeddi: 08/11/2016
Dyddiad y penderfyniad: 01/11/2016
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 01/11/2016 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
Dogfennau Cefnogol: