Manylion y penderfyniad
Cyfnod 3 y Bil Casglu a Rheoli Trethi
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Bil Llywodraeth Cymru a gyflwynwyd gan Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid a Busnes y
Llywodraeth. Cyfeiriodd y Pwyllgor Busnes y Bil i’r Pwyllgor Cyllid.
Gwybodaeth am y Bil
Diben y Bil oedd cyflwyno’r fframwaith cyfreithiol
angenrheidiol ar gyfer casglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru yn y
dyfodol. Yn benodol, darparodd y yn darparu ar gyfer:
- sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru (ACC), a’i brif waith fydd casglu a rheoli trethi datganoledig;
- rhoi pwerau a dyletswyddau priodol i ACC (a dyletswyddau a hawliau
cyfatebol ar drethdalwyr ac eraill) mewn perthynas â dychwelyd ffurflenni
treth a chynnal ymchwiliadau ac asesiadau i alluogi ACC i nodi a chasglu
swm priodol o drethi datganoledig sy’n ddyledus gan drethdalwyr;
- pwerau ymchwilio a gorfodi sifil cynhwysfawr, gan gynnwys pwerau sy’n
galluogi ACC i ofyn am wybodaeth a dogfennau ac i asesu ac archwilio
mangreoedd ac eiddo arall;
- dyletswyddau ar drethdalwyr i dalu cosbau a llog dan rai amgylchiadau;
- hawliau i drethdalwyr ofyn am adolygiadau mewnol o rai o
benderfyniadau ACC ac i apelio i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf yn erbyn
penderfyniadau o’r fath;
- cyflwyno pwerau gorfodi troseddol i ACC.
Cyfnod Presennol
Daeth Deddf
Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 yn gyfraith yng Nghymru
ar 25 Ebrill 2016.
Cofnod
o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob
cyfnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cyfnod |
Dogfennau |
||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyflwyno'r Bil: 13 Gorffennaf 2015 |
Bil
Casglu a Rheoli Trethi (Cymru), fel y’i cyflwynwyd Datganiad
y Llywydd am Gymhwysedd Deddfwriaethol: 13 Gorffennaf 2015 Adroddiad
y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen ar gyfer trafod y Bil: Gorffennaf 2015 Datganiad
yn y Cyfarfod Llawn: Cyflwyno y Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru): 14
Gorffennaf 2015 Geirfa’r
gyfraith (fersiwn Gymraeg yn unig) Datganiad
ar fwriad polisi’r Bil Mae Llywodraeth Cymru wedi
cyhoeddi yr asesiadau effaith isod mewn perthynas â’r Bil (lincs
allanol): Crynodeb
y Gwasanaeth Ymchwil o’r Bil (PDF, 887KB) |
||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod 1 - Pwyllgor yn trafod yr egwyddorion cyffredinol |
Ymgynghoriad Cyhoeddodd y Pwyllgor Cyllid alwad am dystiolaeth, a gaeodd
ar 8 Medi 2015. Dyddiadau
Pwyllgor Trafododd y Pwyllgor
Cyllid y Bil ar y dyddiadau canlynol:
Gwybodaeth ychwanegol Llythyr
gan Weinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth – 1 Hydref 2015 (PDF, 381KB) Llythyr
gan Weinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth – 4 Tachwedd 2015 (PDF, 622KB) Adroddiadau’r Pwyllgorau Adroddiad
Cyfnod 1 y Pwyllgor Cyllid – Tachwedd 2015 (PDF, 1MB) Adroddiad
Cyfnod 1 y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol – Tachwedd
2015 (PDF, 573KB) Ymateb
i adroddiadau’r Pwyllgorau gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth – 16
Rhagfyr 2015 (PDF, 634KB) |
||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod 1 - Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr egwyddorion
cyffredinol |
Cytunodd y Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y
Bil ar ôl dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 8
Rhagfyr 2015. |
||||||||||||||||||||||||||||||||
Penderfyniad Ariannol |
Cytunwyd ar Benderfyniad Ariannol yn y Cyfarfod
Llawn ar 8
Rhagfyr 2015. |
||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod 2 - Pwyllgor yn ystyried y gwelliannau |
Dechreuodd Cyfnod 2 ar 9 Rhagfyr 2015. Y dyddiadau ar
gyfer cyflwyno gwelliannau oedd:
Hysbysiadau ynghylch Gwelliannau
Ystyried Gwelliannau Ystyriwyd y
gwelliannau a gyflwynwyd yn ystod Cyfnod 2 yng nghyfarfod y Pwyllgor Cyllid
ar 28
Ionawr 2016. Rhestr
o Welliannau wedi’u Didoli - 28 Ionawr 2016 (PDF, 153KB) Grwpio
Gwelliannau – 28 Ionawr 2016 (PDF, 70KB) Bil fel y’i diwygiwyd Bil
Casglu a Rheoli Trethi (Cymru), fel y’i diwygiwyd yn ystod Cyfnod 2 (PDF,
499KB) (Caiff y gwelliannau i’r Bil ers y fersiwn flaenorol eu nodi ar ochr
dde’r dudalen). Memorandwm
Esboniadol, fel y’i diwygiwyd yn ystod Cyfnod 2 (PDF, 1MB) Crynodeb
y Gwasanaeth Ymchwil o’r newidiadau a wnaed yng Nghyfnod 2 y Bil (PDF,
168KB) Newidiadau
argraffu a wnaed yng Nghyfnod 2 y Bil (PDF, 47KB) |
||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod 3 - y Cyfarfod Llawn yn ystyried y gwelliannau |
Dechreuodd Cyfnod 3 ar 29 Ionawr 2016. Hysbysiadau ynghylch Gwelliannau
Ystyried
Gwelliannau Ystyriwyd y gwelliannau a gyflwynwyd yn ystod Cyfnod 3
yn y Cyfarfod Llawn ar 1
Mawrth 2016. Rhestr
o Welliannau wedi’u Didoli – 1 Mawrth 2016 (PDF, 206KB) Grwpio
Gwelliannau – 1 Mawrth 2016 (PDF, 71KB) Bil fel y’i diwygiwyd Bil
Casglu a Rheoli Trethi (Cymru), fel y’i diwygiwyd yn ystod Cyfnod 3 (PDF,
499KB) (Caiff y gwelliannau i’r Bil ers y fersiwn flaenorol eu nodi ar ochr
dde’r dudalen). Newidiadau
argraffu a wnaed yng Nghyfnod 3 y Bil (PDF, 54KB) |
||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod 4 - Pasio'r Bil yn y Cyfarfod Llawn |
Cytunodd y Cynulliad y Bil ar 8 Mawrth 2016
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Bil
Casglu a Rheoli Trethi (Cymru), fel y’i pasiwyd (PDF, 489KB) Bil
Casglu a Rheoli Trethi (Cymru), fel y’i pasiwyd (Crown XML) |
||||||||||||||||||||||||||||||||
Ar ôl Cyfnod 4 |
Ysgrifennodd y Twrnai
Cyffredinol (PDF 159KB), y Cwnsler
Cyffredinol (PDF 173KB) ac Ysgrifennydd
Gwladol Cymru (PDF, 158KB) at Brif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad i'w
hysbysu na fyddent yn cyfeirio’r Bil at y Goruchaf Lys o dan Adrannau 112 neu
114 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. |
||||||||||||||||||||||||||||||||
Dyddiad Cydsyniad Brenhinol |
Rhoddwyd Cydsyniad
Brenhinol (PDF, 165KB) ar 25 Ebrill 2016. |
Gwybodaeth gyswllt
Clerc: Leanne Hatcher
Rhif
ffôn: 0300 200 6343
Cyfeiriad post:
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd CF99 1NA
Ebost:
SeneddCyllid@Cynulliad.Cymru
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.35
Cafodd
y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y cafodd yr adrannau a’r atodlenni y maent
yn cyfeirio atynt eu rhestru yn y cynnig o dan Reol Sefydlog 26.36 a gytunwyd
gan y Cynulliad ar 23 Chwefror 2016.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 30:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
39 |
50 |
Gwrthodwyd
gwelliant 30.
Gan fod gwelliant 30 wedi’i wrthod,
methodd gwelliannau 23 – 29 a gwelliannau 31 - 561.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
0 |
35 |
49 |
Gwrthodwyd
gwelliant 7.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
35 |
50 |
Gwrthodwyd
gwelliant 8.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
35 |
50 |
Gwrthodwyd
gwelliant 9.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 10:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
35 |
50 |
Gwrthodwyd
gwelliant 10.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 11:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
35 |
50 |
Gwrthodwyd
gwelliant 11.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 12:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
35 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant
12.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 13:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
35 |
50 |
Gwrthodwyd
gwelliant 13.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 14:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
35 |
50 |
Gwrthodwyd
gwelliant 14.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 15:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
35 |
50 |
Gwrthodwyd
gwelliant 15.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 16:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
35 |
50 |
Gwrthodwyd
gwelliant 16.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 17:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
35 |
50 |
Gwrthodwyd
gwelliant 17.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
35 |
50 |
Gwrthodwyd
gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
26 |
50 |
Gwrthodwyd
gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 18:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
35 |
50 |
Gwrthodwyd
gwelliant 18.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 19:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
26 |
51 |
Fel sy’n ofynnol o
dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy
bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 20:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
35 |
50 |
Gwrthodwyd
gwelliant 20.
Tynnwyd
gwelliant 21 yn ôl.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 22:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
26 |
51 |
Fel sy’n ofynnol o dan
Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy
bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
12 |
50 |
Derbyniwyd
gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
35 |
50 |
Gwrthodwyd
gwelliant 6.
Barnwyd bod holl adrannau
ac atodlenni’r Bil wedi’u derbyn, gan ddod â thrafodion Cyfnod 3 i ben.
Dyddiad cyhoeddi: 02/03/2016
Dyddiad y penderfyniad: 01/03/2016
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 01/03/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad