Manylion y penderfyniad
Cynnig i ddirymu Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) (Diwygio) 2015
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Gall y Cynulliad benderfynu diddymu Rheoliadau a osodwyd o’i flaen sy’n ddarostyngedig i’r weithdrefn negyddol.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 14.27
Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NNDM5872 Llyr Gruffydd
(Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â
Rheol Sefydlog 27.2:
Yn cytuno bod Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru)
(Diwygio) 2015, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 12 Hydref 2015, yn cael ei
ddirymu.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y Cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Fel sy’n
ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais
fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig. Felly, gwrthodwyd y cynnig.
Dyddiad cyhoeddi: 26/11/2015
Dyddiad y penderfyniad: 25/11/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 25/11/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad