Manylion y penderfyniad

Rhaglen waith y Comisiwn Ewropeaidd 2016

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Er gwybodaeth

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

Diben:

Mae rhaglenni gwaith blynyddol y Comisiwn Ewropeaidd yn nodi’r meysydd blaenoriaeth ar gyfer gweithredu bob blwyddyn, gan fanylu ar gynigion deddfwriaethol ac anneddfwriaethol arfaethedig, yn ogystal â meysydd a fydd yn cael eu hadolygu fel rhan o’r ymarfer REFIT (Ffitrwydd Rheoleiddiol) sy’n ceisio gwella effeithiolrwydd deddfwriaeth bresennol. Mae hefyd yn cynnwys manylion am ddeddfwriaeth yr UE a fydd yn cael ei diddymu yn ystod 2016, yn ogystal â chynnwys rhestr o ddeddfwriaeth a fydd yn dod i rym yn ystod 2016.

 

Ystyriodd pob un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru Raglen Waith y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer 2016 mewn perthynas â’i berthnasedd i waith eu Pwyllgor hwy. Cyhoeddwyd Rhaglen Waith y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer 2016 ar 27 Hydref 2015.

Penderfyniadau:

7.1 Nododd y Pwyllgor Raglen Waith y Comisiwn Ewropeaidd 2016.

 

Dyddiad cyhoeddi: 27/11/2015

Dyddiad y penderfyniad: 25/11/2015

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 25/11/2015 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad

Dogfennau Cefnogol: