Manylion y penderfyniad

Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:

  • dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;

Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu cynnal.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.04

NDM5878 Aled Roberts (Gogledd Cymru):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod mwy na 170,000 o bobl yng Nghymru yn cael eu cyflogi'n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol ym maes twristiaeth a sectorau cysylltiedig;

2. Yn nodi bod 44 y cant o'r bobl a gyflogir o fewn y sector twristiaeth o dan 30, ac felly gallai mesurau i gefnogi'r sector hwn chwarae rôl allweddol yn y broses o leihau'r gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl ifanc yng Nghymru;

3. Yn credu y byddai gostyngiad mewn TAW ar dwristiaeth yn annog mwy o ymwelwyr rhyngwladol a domestig, yn rhoi hwb sylweddol i fusnesau lleol ac yn arwain at fwy o fuddsoddiad, swyddi a thwf economaidd;

4. Yn nodi bod 25 o aelod-wladwriaethau eraill yr UE eisoes yn manteisio ar eithriad yr EU ar gyfer cyfradd TAW is ar gyfer atyniadau a llety twristaidd; a

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i ostwng TAW ar dwristiaeth o 20 y cant i 5 y cant, i'n helpu ni i gystadlu yn erbyn gwledydd eraill Ewrop ac anfon neges gref bod Cymru yn agored i dwristiaid ac yn agored ar gyfer busnes.

Cafodd y cynnig, heb welliannau, ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog.

Dyddiad cyhoeddi: 19/11/2015

Dyddiad y penderfyniad: 18/11/2015

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 18/11/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad