Manylion y penderfyniad
Debate on the Communities, Equality and Local Government Committee's report on its Inquiry into Poverty in Wales - Poverty and Inequality
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Wedi’i gwblhau
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Cynhaliodd
y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a
Llywodraeth Leol ymchwiliad i dlodi yng Nghymru. Cafodd yr
ymchwiliad ei rannu'n bedair elfen, â phob un ohonynt yn canolbwyntio ar un
mater penodol. Roedd pob elfen yn annibynnol, gyda chylch gorchwyl penodol,
ond gyda'i gilydd roeddent yn creu un darn o waith. |
Elfen 1: tlodi
ac anghydraddoldeb
Trafod:
- pa
mor effeithiol y mae’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi, y Cynllun
Cydraddoldeb Strategol a strategaethau eraill y llywodraeth yn gweithio
gyda’i gilydd;
- effeithiau
tlodi, yn enwedig amddifadedd a thlodi
eithafol, ar grwpiau gwahanol;
- sut
y mae deddfwriaeth, polisïau a chyllidebau sydd wedi’u targedu at drechu
tlodi a lleihau anghydraddoldeb yn cael eu cydgysylltu a’u blaenoriaethu
ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru.
Adroddiad
ar Dlodi yng Nghymru: Tlodi ac Anghydraddoldeb, Mehefin 2015
Fersiwn ‘cipolwg’ o’r Adroddiad
Ymateb
gan Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi - Hydref 2015
Tystiolaeth
Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad
cyhoeddus i gasglu tystiolaeth am y testun yma.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.07
NDM5842
Christine Chapman (Cwm Cynon)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar Dlodi yng Nghymru: tlodi
ac anghydraddoldeb, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mehefin 2015.
Derbyniwyd y Cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 15/10/2015
Dyddiad y penderfyniad: 14/10/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 14/10/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad