Manylion y penderfyniad
Consideration of powers: Public Services Ombudsman for Wales: Consideration of draft Bill structure
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Cyhoeddwyd yr adroddiad
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Cynhaliodd y Pwyllgor
Cyllid ymchwiliad i Ystyried Pwerau Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Sefydlwyd rôl yr Ombwdsmon gan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus (Cymru) 2005. Mae’r Ombwdsmon presennol wedi tynnu sylw at bum prif
faes o newidiadau i Ddeddf 2005 y mae’n credu byddai’n cryfhau’r rôl. Ystyriodd
y Pwyllgor y pum prif faes a ganlyn:
- pwerau ar ei
liwt ei hun - byddai hyn yn galluogi'r Ombwdsmon i gychwyn ymchwiliadau ar
ei liwt ei hun heb orfod derbyn cwyn am fater yn gyntaf;
- cwynion llafar - ar hyn o bryd, dim ond cwynion
ysgrifenedig y gall yr Ombwdsmon eu derbyn, byddai hyn yn caniatáu i'r
Ombwdsmon dderbyn cwynion llafar;
- ymdrin â chwynion ar draws gwasanaethau cyhoeddus -
byddai hyn yn galluogi'r Ombwdsmon i fod â rôl o ran rhoi cyngor ar ymdrin
â chwynion ar draws gwasanaethau cyhoeddus;
- awdurdodaeth yr Ombwdsmon (i gynnwys gwasanaethau
iechyd preifat) - byddai hyn yn ymestyn awdurdodaeth yr Ombwdsmon gan ei
alluogi / galluogi i ymchwilio pan fo claf wedi derbyn gofal iechyd
preifat (wedi'i ariannu gan y claf ac nid y GIG) ar y cyd â gofal iechyd
cyhoeddus; a
- chysylltiadau â'r llysoedd - cael gwared ar y bar
statudol a fyddai'n caniatáu i'r Ombwdsmon ystyried achos lle mae
posibilrwydd y bydd yn cael ei adolygu gan
lys, tribiwnlys neu broses arall (byddai hyn yn rhoi cyfle i achwynwyr
benderfynu pa lwybr sydd fwyaf priodol iddyn nhw).
Tystiolaeth
gan y cyhoedd
Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth am y testun yma.
Yn dilyn yr
ymchwiliad hwn, cynhaliodd y Pwyllgor
Cyllid ymgynghoriad ynghylch y
Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) drafft.
Penderfyniadau:
6.1
Cytunodd y Pwyllgor ar strwythur y Bil drafft.
6.2 Nododd
yr aelodau hefyd y llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid gan y Gweinidog
Gwasanaethau Cyhoeddus.
Dyddiad cyhoeddi: 29/07/2015
Dyddiad y penderfyniad: 15/07/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 15/07/2015 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad
Dogfennau Cefnogol: