Manylion y penderfyniad

Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Caiff Aelodau'r Cynulliad ofyn Cwestiynau Llafar y Cynulliad i Weinidogion Cymru am unrhyw fater sy'n dod o fewn eu cyfrifoldeb.

 

Bydd Gweinidogion Cymru yn ateb cwestiynau unwaith bob pedair wythnos. Atebir cwestiynau llafar yn ystod cyfnod a neilltuir ar gyfer Cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn.

 

Bydd y Llywydd yn cynnal balot i benderfynu pa Aelodau a gaiff gyflwyno cwestiynau. Caiff pob Aelod gynnwys ei enw yn y balot.

 

Yna, rhaid i'r Aelod a ddetholir gyflwyno'r cwestiwn llafar o leiaf bum niwrnod cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer ei ateb. Defnyddir cyfrifiadur i ddewis trefn ar hap ar gyfer gofyn y cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

 

Gofynnwyd cwestiynau 1-8 ac 11-13. Tynnwyd cwestiwn 9 yn ôl. Ni ofynnwyd cwestiwn 10. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

Dyddiad cyhoeddi: 09/07/2015

Dyddiad y penderfyniad: 08/07/2015

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 08/07/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Dogfennau Cefnogol: