Manylion y penderfyniad
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar helpu pobl ifanc i gael gwaith
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Cynhaliodd Pwyllgor
Menter a Busnes Cynulliad Cenedlaethol Cymru ymchwiliad i Helpu Pobl
Ifanc i Gael Gwaith.
Cylch gorchwyl:
- Pa gymorth sydd fwyaf effeithiol a beth yw’r prif rwystrau a wynebir
gan bobl ifanc wrth iddynt geisio ymuno â’r farchnad lafur?
- I ba raddau y mae strategaeth Llywodraeth Cymru i bobl ifanc nad ydynt
mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yn effeithiol ac yn cynnig gwerth
am arian?
- Pa gynnydd a wnaed hyd yma o ran Cynllun Gweithredu’r Fframwaith
Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid?
- Pa mor effeithiol yw rôl strategol awdurdodau lleol a rhanddeiliaid
allweddol eraill, gan gynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth
Ieuecntid a’r consortia addysg rhanbarthol?
- Graddfa gwahaniaethu a’i effaith ar recriwtio pobl ifanc;
- Pa mor effeithiol yw’r amrywiaeth o gynlluniau, mentrau a phrosiectau
sy’n anelu at gefnogi pobl ifanc i gael gwaith, er enghraifft Twf Swyddi
Cymru, prentisiaethau, hyfforddeiaethau, prosiectau eraill a gefnogir gan
gyllid Ewropeaidd a phrosiectau a reolir gan y trydydd sector? A ydynt yn
sicrhau gwerth am arian?
Ymhlith y
materion a drafodwyd gan y Pwyllgor fel rhan o'r cylch gorchwyl hwn mae'r
canlynol:
- Effaith penderfyniad Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu cymorth i bobl
ifanc rhwng 16 a 18 oed; ac effaith y penderfyniad hwnnw ar bobl ifanc
rhwng 19 a 24 oed;
- Trafnidiaeth (yn enwedig mewn ardaloedd gwledig): beth yw’r problemau
a pha gymorth y gellir ei ddarparu?
- Yr angen am ‘sgiliau meddal’: e.e. sgiliau ar gyfer cyfweliad a
cheisio am swydd; sgiliau i baratoi’r unigolyn at fyd gwaith;
- Beth y gellir ei wneud i helpu grwpiau o bobl ifanc sy’n cael eu
heffeithio yn fwy gan rwystrau i ailymuno â’r farchnad lafur, er
enghraifft pobl ag anableddau?
- Effaith a gwerth am arian cronfeydd Ewropeiadd;
- Amrywiaeth ranbarthol a heriau lleol;
- y problemau cymdeithasol sy'n dal pobl ifanc rhag dod o hyd i waith, a
sut i newid y diwylliant a’r agwedd sy'n cadarnhau diweithdra i lawer.
Tystiolaeth gan y Cyhoedd
Cynhaliodd y
Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth am y testun yma.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.10
NDM5763
William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Menter a Busnes ar ei Ymchwiliad i Helpu Pobl Ifanc i Gael Gwaith, a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mawrth 2015.
Derbyniwyd
y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 21/05/2015
Dyddiad y penderfyniad: 20/05/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 20/05/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad