Manylion y penderfyniad
Debate on The Estyn Annual Report 2013-14
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am
16.31
NDM5698 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei
Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2013-14.
Cyflwynwyd y gwelliannau a
ganlyn:
Gwelliant 1 – Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cymeradwyo agweddau cryfach ar addysg yng
Nghymru, ond yn gresynu at y ffaith bod safonau cyffredinol yn dal i fod yn wan
ac:
a) bod angen i ysgolion sydd ag arweinyddiaeth gref
i rannu arferion gorau gydag ysgolion gwannach i roi hwb i safonau; a
b) bod angen i Lywodraeth Cymru wella mynediad at
ddatblygiad proffesiynol parhaus a'r ddarpariaeth ohono ar gyfer athrawon
newydd a phrofiadol.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Gwelliant 2 – Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at gyflwr unedau cyfeirio disgyblion yng
Nghymru y mae angen gwella pob un ond dau ohonynt.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Gwelliant 3 – Elin Jones
(Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at ganfyddiad Estyn bod safonau mewn
ysgolion cynradd wedi gostwng eleni, gyda chyfran yr ysgolion cynradd sydd â
safonau da neu ragorol yn disgyn o saith ym mhob 10 i ychydig dros chwech ym
mhob 10.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Gwelliant 4 – Elin Jones
(Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at ganfyddiad Estyn bod disgyblion yn
cael anhawster o ran defnyddio sgiliau rhifedd yn briodol ar draws y cwricwlwm
mewn tua hanner ein hysgolion.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Gwelliant 5 – Elin Jones
(Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod angen i Lywodraeth Cymru feithrin
gallu'r gweithlu addysg i roi polisïau allweddol ar waith mewn modd effeithiol,
fel y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd, y Cyfnod Sylfaen a'r Cwricwlwm
Cenedlaethol newydd.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Gwelliant 6 – Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylai athrawon ym mhob rhan o Gymru gael
mynediad i arfer gorau.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
NDM5698
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a
Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2013-14.
2. Yn cymeradwyo agweddau cryfach ar addysg yng Nghymru, ond yn gresynu
at y ffaith bod safonau cyffredinol yn dal i fod yn wan ac:
a) bod angen i ysgolion sydd ag
arweinyddiaeth gref i rannu arferion gorau gydag ysgolion gwannach i roi hwb i
safonau; a
b) bod angen i Lywodraeth Cymru
wella mynediad at ddatblygiad proffesiynol parhaus a'r ddarpariaeth ohono ar
gyfer athrawon newydd a phrofiadol.
3. Yn gresynu at gyflwr unedau cyfeirio disgyblion yng Nghymru y mae
angen gwella pob un ond dau ohonynt.
4. Yn gresynu at ganfyddiad Estyn bod safonau mewn ysgolion cynradd wedi
gostwng eleni, gyda chyfran yr ysgolion cynradd sydd â safonau da neu ragorol
yn disgyn o saith ym mhob 10 i ychydig dros chwech ym mhob 10.
5. Yn gresynu at ganfyddiad Estyn bod disgyblion yn cael anhawster o ran
defnyddio sgiliau rhifedd yn briodol ar draws y cwricwlwm mewn tua hanner ein
hysgolion..
6. Yn credu bod angen i Lywodraeth Cymru feithrin gallu'r gweithlu addysg
i roi polisïau allweddol ar waith mewn modd effeithiol, fel y Fframwaith
Llythrennedd a Rhifedd, y Cyfnod Sylfaen a'r Cwricwlwm Cenedlaethol newydd.
7. Yn credu y dylai athrawon ym mhob rhan o Gymru gael mynediad i arfer
gorau.
Derbyniwyd y cynnig
wedi’i ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 25/02/2015
Dyddiad y penderfyniad: 24/02/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 24/02/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad