Manylion y penderfyniad
Dadl Plaid Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd
yr eitem am 16.59
Gohiriwyd y bleidlais ar y
cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y
cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5686 Elin Jones
(Ceredigion)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi bod Cymru yn hanesyddol wedi gwneud cyfraniad sylweddol i bortffolio
ynni'r DU.
2.
Yn gresynu at y darpariaethau ym Mil Seilwaith Llywodraeth y DU a fydd yn
caniatáu i gwmnïau ffracio ddrilio o dan gartrefi yng Nghymru heb ganiatâd gan
berchnogion yr eiddo.
3.
Yn credu y dylai ynni gael ei ddatganoli'n llawn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru
ac y dylai Llywodraeth Cymru gael y pŵer i atal ffracio.
4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud popeth o fewn ei phŵer i atal ffracio
rhag digwydd yng Nghymru hyd nes y profir bod ffracio yn ddiogel yng
nghyd-destun yr amgylchedd ac iechyd cyhoeddus.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
0 |
16 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei
ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 05/02/2015
Dyddiad y penderfyniad: 04/02/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 04/02/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad