Manylion y penderfyniad

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Caiff Aelodau'r Cynulliad ofyn Cwestiynau Llafar y Cynulliad i'r Prif Weinidog am unrhyw fater sy'n dod o fewn eu cyfrifoldeb.

 

Bydd y Prif Weinidog yn ateb cwestiynau bob wythnos. Atebir cwestiynau llafar yn ystod cyfnod a neilltuir ar gyfer Cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn.

 

Bydd y Llywydd yn cynnal balot i benderfynu pa Aelodau a gaiff gyflwyno cwestiynau. Caiff pob Aelod gynnwys ei enw yn y balot.

 

Yna, rhaid i'r Aelod a ddetholir gyflwyno'r cwestiwn llafar o leiaf bum niwrnod cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer ei ateb. Defnyddir cyfrifiadur i ddewis trefn ar hap ar gyfer gofyn y cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 13.38

 

Gofynnwyd cwestiynau 1 i 2, 4 i 10 a 12 i 15.  Ni ofynwyd cwestiwn 3. Tynnwyd cwestiwn 11 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

Dyddiad cyhoeddi: 09/07/2014

Dyddiad y penderfyniad: 08/07/2014

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 08/07/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Dogfennau Cefnogol: