Manylion y penderfyniad
Debate: The Professor McClelland Review of Welsh Ambulance Services
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.19
NDM5230 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod Adolygiad yr Athro Siobhan McClelland o
Wasanaethau Ambiwlans Cymru wedi’i gyhoeddi;
2. Yn nodi’r 12 argymhelliad a gynigir gan yr Athro
McClelland;
3. Yn cydnabod bod angen:
a) cytuno ar weledigaeth glinigol ar gyfer Gwasanaethau
Ambiwlans Cymru;
b) rhoi amser i unrhyw fodel ar gyfer cyflenwi
gwasanaethau ambiwlans yn y dyfodol aeddfedu.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn nodi â phryder:
a) er gwaethaf cynnal naw adolygiad mewn chwe blynedd,
Cymru sydd â'r amseroedd ymateb isaf yn y DU o hyd;
b) nid yw'r targed o wyth munud ar gyfer Cymru gyfan
wedi'i gyrraedd am y deg mis diwethaf;
c) mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod ambiwlansys
Cymru, ym mhob ardal awdurdod lleol, wedi methu cyrraedd targedau amseroedd
ymateb cenedlaethol ar gyfer galwadau lle y mae bywyd yn y fantol;
d) nid yw'r targed o 95% ar gyfer derbyn, trosglwyddo neu
ryddhau cleifion newydd mewn cyfleusterau gofal brys o fewn pedair awr iddynt
gyrraedd erioed wedi'i gyflawni;
e) mae ambiwlansys wedi treulio bron i 55,000 awr yn aros
y tu allan i ysbytai Cymru yn y chwe mis diwethaf;
f) mae adroddiad perfformiad diweddaraf Ymddiriedolaeth
Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn dangos iddi gyflawni 56.9% yn unig o ran
trosglwyddo cleifion o fewn 15 munud, yn erbyn y targed cenedlaethol o 95%.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon
tan y Cyfnod Pleidleisio.
Gwelliant 2 - William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu is-bwynt 3b) a rhoi'r canlynol yn ei le:
‘b) cyhoeddi amserlen glir ar gyfer sicrhau gwelliannau i
Wasanaethau Ambiwlans Cymru.’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
22 |
5 |
28 |
55 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu fel is-pwynt 3b) newydd ac ailrifo yn unol â
hynny:
sefydlu amserlen glir ar gyfer cytuno ar fodel newydd o
gyflenwi gwasanaethau ambiwlans a'i weithredu;
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
55 |
0 |
0 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Jocelyn
Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod bod y methiannau systematig o ran gofal heb
ei drefnu yn cael effaith sylweddol ar berfformiad Ymddiriedolaeth Gwasanaethau
Ambiwlans Cymru ac felly'n effeithio'n andwyol ar ganlyniadau i gleifion.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
55 |
0 |
0 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi mai 53% yn unig o alwadau Categori A a gafodd
ymateb o fewn wyth munud ym mis Mawrth 2013, y ffigur isaf ers mis Rhagfyr 2010
ac nad yw targed Llywodraeth Cymru o 65% ar gyfer galwadau Categori A wedi'i gyrraedd
am ddeg mis yn olynol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
55 |
0 |
0 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi y cafwyd o leiaf 13 o adolygiadau neu
archwiliadau i'r gwasanaethau a gyflenwir gan Wasanaethau Ambiwlans Cymru ers
2006 ac yn gresynu nad yw canlyniad yr adolygiadau hyn wedi'u gweithredu'n
llawn.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
55 |
0 |
0 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 - William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau cyflym i fynd
i'r afael â'r materion a godwyd yn yr adolygiad a sicrhau bod unrhyw fodel o'r
gwasanaethau ambiwlans yn y dyfodol yn cael ei strwythuro er budd cleifion a
staff.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
55 |
0 |
0 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 7.
Gwelliant 8 - William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Gwasanaethau
Ambiwlans Cymru yn cael cyllid priodol i sicrhau gwasanaethau ambiwlans
effeithlon a chadarn.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
55 |
0 |
0 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 8.
Gwelliant 9 - Aled
Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu targedau ychwanegol sy'n canolbwyntio fwy
ar brofiad y cleifion a'r canlyniadau iddynt a chyhoeddi adroddiad perfformiad
Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn cynnwys cerdyn sgorio
perfformiad allweddol misol y weithrediaeth.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
46 |
9 |
0 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 9.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5230 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1 Yn nodi â phryder:
a) er gwaethaf cynnal naw adolygiad mewn chwe blynedd,
Cymru sydd â'r amseroedd ymateb isaf yn y DU o hyd;
b) nid yw'r targed o wyth munud ar gyfer Cymru gyfan
wedi'i gyrraedd am y deg mis diwethaf;
c) mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod ambiwlansys
Cymru, ym mhob ardal awdurdod lleol, wedi methu cyrraedd targedau amseroedd
ymateb cenedlaethol ar gyfer galwadau lle y mae bywyd yn y fantol;
d) nid yw'r targed o 95% ar gyfer derbyn, trosglwyddo neu
ryddhau cleifion newydd mewn cyfleusterau gofal brys o fewn pedair awr iddynt
gyrraedd erioed wedi'i gyflawni;
e) mae ambiwlansys wedi treulio bron i 55,000 awr yn aros
y tu allan i ysbytai Cymru yn y chwe mis diwethaf;
f) mae adroddiad perfformiad diweddaraf Ymddiriedolaeth
Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn dangos iddi gyflawni 56.9% yn unig o ran
trosglwyddo cleifion o fewn 15 munud, yn erbyn y targed cenedlaethol o 95%.
2. Yn nodi bod Adolygiad yr Athro Siobhan McClelland o
Wasanaethau Ambiwlans Cymru wedi’i gyhoeddi;
3. Yn nodi’r 12 argymhelliad a gynigir gan yr Athro
McClelland;
4. Yn cydnabod bod angen:
a) cytuno ar weledigaeth glinigol ar gyfer Gwasanaethau
Ambiwlans Cymru;
b)sefydlu amserlen glir ar gyfer cytuno ar fodel newydd o
gyflenwi gwasanaethau ambiwlans a'i weithredu;
c) rhoi amser i unrhyw fodel ar gyfer cyflenwi
gwasanaethau ambiwlans yn y dyfodol aeddfedu.
5. Yn cydnabod bod y methiannau systematig o ran gofal heb
ei drefnu yn cael effaith sylweddol ar berfformiad Ymddiriedolaeth Gwasanaethau
Ambiwlans Cymru ac felly'n effeithio'n andwyol ar ganlyniadau i gleifion.
6. Yn nodi mai 53% yn unig o alwadau Categori A a gafodd
ymateb o fewn wyth munud ym mis Mawrth 2013, y ffigur isaf ers mis Rhagfyr 2010
ac nad yw targed Llywodraeth Cymru o 65% ar gyfer galwadau Categori A wedi'i
gyrraedd am ddeg mis yn olynol.
7. Yn nodi y cafwyd o leiaf 13 o adolygiadau neu
archwiliadau i'r gwasanaethau a gyflenwir gan Wasanaethau Ambiwlans Cymru ers
2006 ac yn gresynu nad yw canlyniad yr adolygiadau hyn wedi'u gweithredu'n
llawn.
8. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau cyflym i
fynd i'r afael â'r materion a godwyd yn yr adolygiad a sicrhau bod unrhyw fodel
o'r gwasanaethau ambiwlans yn y dyfodol yn cael ei strwythuro er budd cleifion
a staff.
9. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Gwasanaethau
Ambiwlans Cymru yn cael cyllid priodol i sicrhau gwasanaethau ambiwlans
effeithlon a chadarn.
10.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu targedau ychwanegol sy'n canolbwyntio
fwy ar brofiad y cleifion a'r canlyniadau iddynt a chyhoeddi adroddiad
perfformiad Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn cynnwys cerdyn
sgorio perfformiad allweddol misol y weithrediaeth.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
55 |
0 |
0 |
55 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 08/05/2013
Dyddiad y penderfyniad: 07/05/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 07/05/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad