1.            Ymateb i Ymgynghoriad Pwyllgor Diwylliant, Y Gymraeg a Chyfathrebu

2.            Y Diwydiant Cerdd yng Nghymru

3.            Yr wyf yn gryf o’r farn mai un o brif ddiffygion y diwydiant cerdd yng Nghymru yw’r ffaith nad oes strategaeth gynhwysfawr gan y Llywodraeth sy’n edrych ar y diwydiant cerdd yn ei gyfanrwydd.  Drwy edrych ar un rhan ohono fel ‘cerddoriaeth fyw’, yna parhau bydd y gweithredu tameidiog hyn gan y Llywodraeth.  Ers i’r Llywodraeth benderfynu peidio ariannu’r Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig (WMF), mae vacuum enfawr wedi bodoli yn y diwydiant, a does dim un corff bellach yn cynrychioli’r diwydiant yn ei gyfanrwydd.  Mae gan bob un o’r cyfryngau eraill gorff i’w cynrychioli a strwythur nawdd cyhoeddus sefydlog, boed yn deledu (S4C a’r BBC), Radio (BBC), Y Gweisg a’r diwydiant print ( Y Cyngor Llyfrau), ond does dim byd cyffelyb i gerddoriaeth ar wahân i’r Opera Cenedlaethol.

4.            Roeddwn yn falch iawn o fod yn aelod o fwrdd y Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig, ac yn ddiweddarach yn Gadeirydd.  Roeddwn hefyd ar Fwrdd Cerdd Cymru:Music Wales, sef y bartneriaeth rhwng y SCG, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru.  Fe lwyddom i ddenu un o brif ffeiriau masnach cerddoriaeth y byd i Gaerdydd yn 2013, sef Womex. Ond yn dilyn hynny, ac er yr holl fuddsoddiad yn denu Womex i Gaerdydd, tynnwyd y gefnogaeth i’r SCG gan y Llywodraeth, ac ni fanteisiwyd ar yr holl fomentwm a grëwyd gan Womex i gerddoriaeth Gymreig. Roedd y bartneriaeth rhwng y diwydiant (yr SCG) a’r cyrff cyhoeddus celfyddydol (WAI ag ACW) yn gweithio, ond ers hynny, mae’r gefnogaeth gan y Llywodraeth wedi ei sianelu drwy’r cyrff celfyddydol cyhoeddus yn unig, a brand yn unig yw Cerdd Cymru:Music Wales bellach.  Mae gan y cyrff hyn, wrth gwrs, eu polisïau eu hunain o ran dosbarthu nawdd a chefnogaeth, ond yn amlach na pheidio, nid yw’r polisïau hyn yn addas ar gyfer y diwydiant masnachol.

5.            Mae’r nawdd a’r gefnogaeth a ddaw gan y cyrff celfyddydol yn canolbwyntio ac yn blaenoriaethu’r artist.  Mae hyn yn ddigon rhesymol o ran y celfyddydau, ond nid yw’n gwneud synnwyr o ran y diwydiant.  Mae cefnogaeth ar gael i artist i fynychu gwyliau a ffeiriau dramor, neu i gydweithio gydag artistiaid o wledydd sy’n cael eu targedu gan y Llywodraeth, ond gwaith am dymor byr yn unig yw hyn.  Tu ôl i’r artistiaid mae angen cefnogaeth a chynhaliaeth gan y diwydiant, boed yn labeli, neu’n rheolwr, hyrwyddwr neu asiantaethau.  Mae angen meithrin a datblygu artistiaid, rhoi profiadau iddynt yn y stiwdio, recordio cynnyrch i gynorthwyo gyda’r gwaith hyrwyddo.  Eu cefnogi mewn gwyliau, ac ar daith, trafod efo hyrwyddwyr ac asiantaethau eraill ar eu rhan, trwyddedu eu cynnyrch i labeli eraill ac i’r cyfryngau, darlledwyr a chwmnïau ffilm.  Mae hyn wedyn yn rhyddhau’r artist i ganolbwyntio ar eu celfyddyd.  Weithiau bydd labeli yn trefnu teithiau byr i hyrwyddo cynnyrch newydd, neu yn trefnu ymddangosiadau ar y radio neu deledu, ac yn cyflogi pluggers i gael adroddiadau ac adolygiadau yn y wasg, a chyfweliadau ar orsafoedd radio lleol ar draws Brydain.  Mae hyn i gyd yn rhan o waith ‘y diwydiant’ sy’n cefnogi’r artist.

6.            Ar hyn o bryd mae’r gefnogaeth yn dameidiog, gydag ychydig yn fan hyn, ac ychydig fan draw.  Mae yna lu o gyrff sy’n cyfrannu darnau o’r jig-so ond does neb yn edrych ar y llun ar y bocs i weld sut mae’r cyfanwaith i fod i edrych yn y diwedd.

7.            Ers y chwyldro digidol, mae’r cyfleoedd i ddosbarthu cerddoriaeth yn y Gymraeg wedi gwella’n aruthrol.  Er ei fod yn parhau i fod yn gerddoriaeth niche, mae’n bellach yn gerddoriaeth niche fyd-eang.  Ers y cychwyn rydym yn Sain wedi dod i gytundeb gydag iTunes (Apple Music) i lawrlwytho a ffrydio ein cerddoriaeth, sef bron i 15,000 o draciau.  Rydym hefyd wedi defnyddio dosbarthwyr digidol o’r enw State 51 ar gyfer y platfformau eraill i gyd gan gynnwys Spotify.  Rydym yn derbyn adroddiadau o 35,000 o linellau yn fisol gan y cwmnïau hyn, ac mae’n ymddangos fod tua 4.5 miliwn o’n traciau wedi cael eu ffrydio'r llynedd.  Y broblem, wrth gwrs, yw mai bach iawn yw’r incwm  mae Sain yn ei dderbyn, sef £0.0045 am bob ffrwd (sef llai na ½ ceiniog), ac yna mae rhaid talu breindal o hyn i’r artistiaid.  Mae’n amlwg nad yw hyn yn hyfyw, ac nad yw am gadw’r diwydiant recordio i fodoli yn hir iawn i’r dyfodol. Os yw’r diwydiant am fod yn un proffesiynol, ac nid yn un sy’n dibynnu ar ffafrau gan gyfeilion, briwsion yma a thraw, a gwirfoddolwyr sydd â swyddi eraill yn llawn amser, yna mae’n rhaid cael strategaeth gynhwysfawr ar sut i ddatblygu’r diwydiant.

8.           

9.            Mae’r swm o arian mae’r labeli yn gallu ei fuddsoddi bellach mewn cerddoriaeth a chynnyrch newydd unigol yn llai nag yr oedd tua 20 mlynedd yn ôl. Mae’r dechnoleg recordio yn well ac mae’r broses yn haws, ond mae cerddorion sesiwn a chynhyrchwyr angen eu talu ac ennill bywoliaeth.  Er mwyn sicrhau'r safon gorau i gerddoriaeth Gymreig mae’n dal yn bwysig fod labeli a stiwdios yn buddsoddi yn y dechnoleg ddiweddaraf. Mae defnyddio stiwdio broffesiynol yn parhau i fod yn hanfodol, a dyna un o’r rhesymau mae cynhyrchwyr megis Ifan ac Osian (Candelas), ac Aled Hughes (Cowbois Rhos Botwnnog) wedi ymgartrefu yma yng Nghanolfan Sain erbyn hyn.  Ond eto nid yw’n hyfyw.  Mae maint y gynulleidfa yn gyfyngedig, yn union fel mae’r gynulleidfa i lyfrau Cymraeg a Chymreig, ond mae cymorth ar gael i gyhoeddi llyfrau, i’r awdur, i’r golygydd, i’r wasg, i ddelwedd y clawr, i’r dosbarthu ac i’r marchnata. Does dim i gynnyrch cerddorol.  Mae’r llyfr felly, gyda’r telerau ffafriol mae’r Cyngor Llyfrau yn gallu ei gynnig i’r manwerthwyr, yn golygu fod siopau Cymraeg erbyn yn rhoi mwy o le ar y silff i lyfrau, a llawer llai i’r CD.

10.         I geisio gwella’r incwm a ddaw o ffrydio i artistiaid o Gymru  mae Sain wedi sefydlu gwasanaeth ffrydio Apton, fel gwefan ag Ap ar ffonau symudol.  Mae sawl label yng Nghymru yn cyfrannu traciau i Apton, ac mae 3000 o gwsmeriaid wedi cofrestru ar y gwasanaeth.  Mae ysgolion cynradd ac Awdurdodau Lleol hefyd yn tanysgrifio i wasanaeth Apton, gan eu bod yn sylweddoli ei fod yn wasanaeth ‘saff’ i’r plant ac yn ffordd o chwarae cerddoriaeth Gymraeg yn yr ysgol.  Mae hyn yn ei dro yn codi ymwybyddiaeth o gerddoriaeth Gymraeg ac yn cyfrannu tuag at nod y Llywodraeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg. Ond mae’n anodd cystadlu gyda chwmnïau enfawr fel Spotify ag Apple Music, ac mae’n rhaid datblygu Apton i fod yn wasanaeth sy’n rhan o systemau megis Sonos, neu Alexa er mwyn sicrhau ei le yn y dyfodol.  Cafwyd £30k gan Adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru i ddatblygu Apton, ond mae Sain wedi buddsoddi dros £100k eu hunain yn y fenter.  Mae datbygu Ap or math yma yn broses drud iawn o ran y dechnoleg, y rhaglennu, ac wedyn o ran y diweddaru a’r cynnal a chadw, ac mae’n bur debyg na fydd modd i Apton barahu heb fwy o fuddsoddiad i’w ddatblygu.

11.         Mae’r cwmnïau casglu megis PPL, PRS ac MCPS i gyd erbyn hyn wedi addasu eu polisiau dosbarthu, sy’n golygu fod unrhyw artist, label, cyfansoddwr neu gwmni cyhoeddi sy’n gweithio drwy iaith leifafrifol yn derbyn llawer llai o incwm, pan fo’r cwmnïau eu hunain yn datgan yn gyson gymaint yn fwy y maent yn ei gasglu a’i ddosbarthu yn gyffredinol.  Dyma arweiniodd yn 2007 at sefydlu’r Gynghrair ac yna 6 mlynedd yn ddiweddarach y corff casglu annibynnol Eos.  Mae Eos bellach wedi dosbarthu dros £500,000 i gyfansoddwyr a chyhoeddwyr o Gymru, ac yn talu raddfa y funud sy’n ddwbl beth mae PRS yn ei dalu ar gyfer Radio Cymru,a thua 6 gwaith yn fwy na mae’r PRS yn dalu ar gyfer darllediadau ar S4C.  Mae sefyllfa breindaliadau, felly, hefyd yn rhan o’r darlun, ac angen ei drafod fel rhan o strategaeth gynhwysfar i’r diwydiant cerdd.

12.         Rwy’n erfyn arnoch, felly, i beidio edrych ar un rhan o’r diwydiant yn unig.  Mae angen trafodaeth ar bob rhan ohoni, gan fod yr elfennau i gyd ynghlwm ac yn gyd-ddibynnol ar ei gilydd.  Heb y creu does dim i’w ddosbarthu, na’i berfformio.  Pan fo’r diwydiant recordio ar ei liniau oherwydd y cwymp mewn gwerthiant CDs a’r incwm o ffrydio yn dda i ddim, yna mae perfformio’n fyw yn rhan bwysig o hyrwyddo’r cynnyrch yn ogystal â’r artist.  Byddwn hefyd yn gofyn i chi ystyried pob math o gerddoriaeth, nid cerddoriaeth pop/roc indie yn unig.  O’n profiad ni mae cerddoriaeth Gymreig sydd ag elfen o ddiwylliant Cymru yn rhan ohono, sef beth sy’n ei wneud yn Gerddoriaeth Byd, yn allforio yn llawer gwell, ac mae artistiaid yn y maes hwn hefyd yn cael mwy o lwyddiant nag artistiaid sy’n efelychu'r genre Eingl-Americanaidd. Gall hyn gynnwys cerddoriaeth draddodiadol yn ogystal â’r werin fodern , neu’r cantorion/gyfansoddwr. Mae’n bwysig cofio ein hartistiaid clasurol, gwlad a chanu corawl hefyd wrth i ni drafod sut mae modd i ni ddatblygu a chryfau y diwydiant cerdd a gwellau’r hallforion o’n diwylliant cerddorol.

13.          

Dafydd M Roberts

Prif Weithredwr

Sain (Recordiau) Cyf.