GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHREDU MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
156 - Rheoliadau Cynhyrchion Amaethyddol, Bwyd a Diod (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2019 Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 14 Hydref 2019 |
|
Sifftio |
|
Yn destun gwaith sifftio yn Senedd y DU? |
Nac ydynt |
Gweithdrefn: |
Gwneud cadarnhaol |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
Amherthnasol |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Amherthnasol |
Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
Amherthnasol |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 18 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol (SICM) o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd eu bod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Dim angen |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Amherthnasol |
Gweithdrefn |
Gwneud cadarnhaol |
Dyddiad trafod gan y Cydbwyllgor ar Offerynnau Statudol |
Anhysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin |
Anhysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Anhysbys |
Sylwadau Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a pharagraff 21 o Atodlen 7 iddi.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio deddfwriaeth yr UE a ddargedwir ym maes bwyd a diod. Mae'r darpariaethau yn y Rheoliadau hyn, i raddau helaeth, yn diwygio rheolau ynghylch y sectorau gwin a gwirodydd, gyda'r mwyafrif ohonynt yn ymwneud â chynlluniau dynodiad daearyddol (“GI”). Yn gyffredinol, mae'r diwygiadau yn disodli cynlluniau GI cyfredol yr UE gyda chynlluniau GI y DU. Yn ogystal, mae nifer fach o ddiwygiadau yn ymwneud ag ymadael â’r UE i gyfraith yr UE ar gynlluniau GI ym maes cynhyrchion amaethyddol a bwydydd.
Mae'r newidiadau sy'n cael eu gwneud gan y Rheoliadau hyn yn fân newidiadau i offerynnau statudol y mae Gweinidogion Cymru eisoes wedi cydsynio iddynt ond sy'n ymwneud â maes cymhwysedd y mae anghydfod yn ei gylch, fel y nodir yn y datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 16 Hydref 2019. Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 16 Hydref 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.
Mae’r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i’r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith. Rydym yn fodlon bod y Rheoliadau ond yn gwneud cywiriadau i'r fframwaith deddfwriaethol cyfredol er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i fod yn weithredol, yn hytrach na deddfu polisi newydd mewn meysydd datganoledig.
Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol o'r farn bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. |