GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
146 - Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin a Chyd-drefniadaeth ar gyfer y Marchnadoedd mewn Cynhyrchion Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2019 Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 24 Gorffennaf 2019 |
|
Sifftio |
|
A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU? |
Na fydd |
Gweithdrefn: |
Amherthnasol |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
Amherthnasol |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Amherthnasol |
Y dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
Amherthnasol |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 46 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Amherthnasol |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Amherthnasol |
Gweithdrefn |
Cadarnhaol drafft |
Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol |
4 Medi 2019 |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin |
Anhysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
5 Medi 2019 |
Bwriedir i’r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a pharagraff 21 o Atodlen 7 i’r Ddeddf.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio darpariaethau pontio sydd wedi'u cynnwys yn Rheoliadau'r Fframwaith Fframwaith Cyd-drefniadaeth ar gyfer y Marchnadoedd mewn Cynhyrchion Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol etc.) (Ymadael â'r UE) 2019 (O.S. 2019/821), Rheoliadau Mesurau'r Farchnad (Safonau Marchnata) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2019 (O.S. 2019/822) a Rheoliadau Mesurau’r Farchnad (Darpariaethau Amrywiol) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/824) i roi ystyriaeth i ddiwygiadau dilynol i’r diffiniad o “diwrnod ymadael” yn Neddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (c.16). Roedd y drafftio gwreiddiol yn dibynnu ar y diwrnod ymadael gwreiddiol a fwriadwyd, sef 29 Mawrth 2019.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud mân ddiwygiadau i gywiro gwallau yn Rheoliadau Datblygu Gwledig (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2019 (O.S. 2019/764), Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Darpariaethau Atodol Cyllido, Rheoli a Monitro) (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/765), Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin a Mesurau'r Farchnad (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/812) a Rheoliadau'r Fframwaith Fframwaith Cyd-drefniadaeth ar gyfer y Marchnadoedd mewn Cynhyrchion Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol etc.) (Ymadael â'r UE) 2019.
Mae'r offerynnau statudol a ddiwygir gan y Rheoliadau hyn yn diwygio cyfraith yr UE a ddargedwir mewn perthynas â'r Polisi Amaethyddol Cyffredin a mesurau'r farchnad amaethyddol.
Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 30 Gorffennaf 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn. Mae'r crynodeb uchod a chynnwys Memorandwm Esboniadol y Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith gyfyngedig. |