Sylwadau
Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU
yn unol ag adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)
2018.
Mae Rheoliadau Rhyddid i Ymsefydlu a Symud Gwasanaethau yn
Rhydd (Ymadael â’r UE) 2019 ('yr Offeryn hwn') yn
datgymhwyso darpariaethau ar gyfer rhyddid i ymsefydlu a symud
gwasanaethau yn rhydd sy'n parhau fel hawliau sy'n effeithiol yn
uniongyrchol mewn cyfraith ddomestig, yn rhinwedd adran 4 o Ddeddf
yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. 'Hawliau sy'n effeithiol
yn uniongyrchol' yw'r term a ddefnyddir i gyfeirio at
ddarpariaethau yng nghyfraith yr UE sy'n ddigon clir, manwl a
diamod o ran rhoi hawliau i unigolion yn uniongyrchol, a gellir
dibynnu ar y rhain yn y gyfraith genedlaethol heb fod angen mesurau
gweithredu.
O ganlyniad i'w haelodaeth o'r UE, fe rwymir y DU i gytundebau
dwyochrog ac amlochrog yr UE, gan gynnwys: y Cytundeb ar yr Ardal
Economaidd Ewropeaidd (Cytundeb yr AEE); y Cytundeb rhwng y Gymuned
Ewropeaidd a'i Haelod-wladwriaethau a Chydffederasiwn y Swistir ar
ryddid pobl i symud (FMOPA); a'r Cytundeb sy'n sefydlu Cymdeithas
rhwng y Gymuned Economaidd Ewropeaidd a Thwrci a lofnodwyd yn
Ankara ('Cytundeb Ankara') a Phrotocolau dilynol. Yn 2009,
cadarnhaodd y DU y Cytundeb ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd
(TFEU).
Mae'r Offeryn hwn yn ymwneud â hawliau sy'n effeithiol
yn uniongyrchol sy'n deillio o Erthygl 49 TFEU (rhyddid i
ymsefydlu), Erthygl 56 TFEU (symud gwasanaethau yn rhydd) ac
Erthygl 57 TFEU (diffiniad o 'gwasanaethau'). Gyda'i gilydd, mae'r
hawliau i ymsefydlu a symud gwasanaethau yn rhydd yn sicrhau y
caiff gwladolion o diriogaethau Aelod-wladwriaethau'r UE fod yn
hunangyflogedig, perchen ar gwmni a'i reoli, a darparu gwasanaethau
dros dro o dan yr un amodau â gwladolion y Wladwriaeth ei
hun, a'u bod yn cael gwasanaethau heb wynebu rhai cyfyngiadau ym
Marchnad Sengl yr UE. Mae'r rhyddid i ymsefydlu a symud
gwasanaethau yn rhydd yn rhan o Farchnad Sengl yr UE, sy'n cynnwys
symudiad rhydd o ran nwyddau, pobl, gwasanaethau a
chyfalaf.
Mae'r Offeryn hwn hefyd yn ymwneud â hawliau rhyddid i
ymsefydlu a symud gwasanaethau yn rhydd sy'n deillio o Gytundeb yr
AEE, FMOPA, a Chytundeb Ankara a'r Protocol Ychwanegol.
Mae adran 4 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 yn
darparu y bydd yr hawliau sy’n llifo i gyfraith ddomestig yn
rhinwedd adran 2(1) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 yn parhau
i gael eu cydnabod ac i fod ar gael mewn cyfraith ddomestig. Mae
hyn yn cynnwys sylwedd hawliau sy'n effeithiol yn uniongyrchol mewn
perthynas â symud gwasanaethau yn rhydd a'r rhyddid i
ymsefydlu. Os na fydd y DU yn gadael yr UE o dan delerau Cytundeb
Ymadael (h.y. senario 'dim cytundeb'), bydd yr elfennau dwyochredd
sy'n rhan o'r hawliau sy'n effeithiol yn uniongyrchol o ran symud
gwasanaethau yn rhydd, fel sy'n deillio o Erthyglau yn y TFEU,
Cytundeb yr AEE, FMOPA, Cytundeb Ankara a'r Protocol Ychwanegol, yn
peidio â gweithredu'n effeithiol yn y DU.
Er mwyn mynd i’r afael ag unrhyw anweithredoldeb ac i
sicrhau bod cyfraith y DU yn parhau i weithredu’n effeithiol,
gydag eglurder cyfreithiol, ac i sicrhau bod y DU yn cydymffurfio
â’i rhwymedigaethau Sefydliad Masnach y Byd (WTO), gan
gynnwys y Cytundeb Cyffredinol ar Fasnach mewn Gwasanaethau, mae
angen anghymwyso’r hawliau hyn.
Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol
yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru
dyddiedig 15 Gorffennaf 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau
hyn.
Mae'r crynodeb uchod a chynnwys Memorandwm Esboniadol y
Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.
|