GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
84 - Rheoliadau Ystadegau'r DU (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2019 Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 24 Ionawr 2019 |
|
Sifftio |
|
A fydd angen eu sifftio yn Senedd y DU? |
Oedd |
Gweithdrefn: |
Negyddol arfaethedig |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
5 Chwefror 2019 |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
yr wythnos yn dechrau |
Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
12 Chwefror 2019 |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 11 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Papur 12 |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Ddim yn hysbys |
Y weithdrefn |
Negyddol neu Gadarnhaol |
Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol |
Ddim yn hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin |
Ddim yn hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Ddim yn hysbys |
Sylwadau
Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
Mae'r Rheoliadau hyn yn cywiro diffygion mewn deddfwriaeth sy'n deillio o ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd mewn perthynas â darparu gwybodaeth ystadegol. Yn benodol, mae'r offeryn hwn: · Yn diwygio Deddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007 er mwyn sicrhau bod cyfeiriadau at gyfraith yr UE yn cael eu newid i gyfeirio at gyfraith gyfatebol briodol yr UE a ddargedwir; · Yn diwygio un Ddeddf a phedwar offeryn statudol fel bod y cyfeiriadau at rai safonau Ewropeaidd yn parhau i gyfeirio at yr UE, yn hytrach na'r fersiwn o'r safonau hynny a ddargedwir gan yr UE; a
·
Yn dirymu'r rhan fwyaf o ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a
ddargedwir sy'n: Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 29 Ionawr 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.
Mae’r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i’r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.
Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn ystyried bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol i geisio cynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
|