GWEINIDOGION Y DU SY’N GWEITHIO MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG 

 

 

54 – Rheoliadau’r Amgylchedd (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2019

Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 5 Rhagfyr 2018

Sifftio

A fydd angen sifftio yn Senedd y DU?

Nac oedd

Gweithdrefn:

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ’r Cyffredin

Dd/B

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-deddfwriaeth Tŷ’r Arglwyddi

Dd/B

Dyddiad y daw’r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

Dd/B

Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: 

Papur 24

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd ei fod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Papur 25

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Dd/B

Y weithdrefn

Cadarnhaol

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

Ddim yn hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ’r Cyffredin

Ddim yn hysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-deddfwriaeth Tŷ’r Arglwyddi

Ddim yn hysbys

Sylwadau

 

Bwriedir i’r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a pharagraff 21 o Atodlen 7 i’r Ddeddf.

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn sicrhau bod deddfau amgylcheddol, trawsbynciol yn y Deyrnas Unedig yn gweithredu’n gyfreithiol ar ôl ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd. Mae’n gwneud hyn mewn tair ffordd:
     (1) drwy ddiwygio Deddfau amgylcheddol, trawsbynciol;
     (2) drwy ddiwygio offerynnau statudol amgylcheddol, trawsbynciol; a
     (3) thrwy atal rhai Rheoliadau a Phenderfyniadau amgylcheddol yr UE, sydd wedi dyddio
          neu na fydd ganddynt ddim swyddogaeth bellach ar ôl i ni adael yr UE, gan gael eu dwyn i mewn i gyfraith y DU drwy weithrediad awtomatig Deddf yr UE (Ymadael) 2018 ("EUWA 2018"); ynghyd â gorchmynion dynodi domestig o ran Cymru a Lloegr sy’n ddiangen yng ngoleuni’r diwygiadau i Ddeddfau mewn mannau eraill yn yr offeryn.

 

Mae’r Cynghorwyr Cyfreithiol yn gwneud y sylwadau a ganlyn mewn perthynas â datganiad Llywodraeth Cymru dyddiedig 10 Rhagfyr 2018 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn:

Mae datganiad Llywodraeth Cymru yn cyfeirio’n anghywir at y Rheoliadau hyn fel Rheoliadau’r Amgylchedd (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2018, pan maen nhw mewn gwirionedd yn Rheoliadau’r Amgylchedd (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2019.

 

Mae’r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i’r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.

 

Nid yw’r Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol i geisio cynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn.