Ymgynghoriad ar y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)

Tystiolaeth i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyfer Craffu Cyfnod 1 Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)

Evidence submitted to the Children, Young People and Education Committee for Stage 1 scrutiny of the Children (Abolition of Defence of Reasonable Punishment) (Wales) Bill

CADRP-271

CADRP-271

Cyflwynwyd yr ymateb hwn yn Gymraeg.

Amdanoch Chi

Unigolyn

1      Egwyddorion cyffredinol y Bil

1.1     A ydych yn cefnogi egwyddorion y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)?

-       Nac ydw

1.2     Amlinellwch eich rhesymau dros eich ateb i gwestiwn 1.1

Nid yw smacio plentyn oherwydd ei ymddygiad yn golygu fod y rhiant/rhieni yn ei gamdrin. Mae 'na fyd o wahaniaeth rhwng camdrin plant a disgyblaeth gariadus gan rieni. Dylai'r Llywodraeth yng Nghymru wybod hynny.

Nid cyfrifoldeb y Llywodraeth yng Nghymru yw ymyrryd ym mywyd teuluoedd y genedl. Yn hytrach, byddai'n dda i'r Llywodraeth yng Nghymru ystyried yr ystadegau o blaid ac yn erbyn newid y ddeddf (h.y. yn 2017, drwy gyfrwng ComRes gwelwyd fod 76% o oedolion yng Nghymru yn ERBYN criminaleiddio smacio a dim ond 11% o blaid). Drwy geisio newid y ddeddf, mae'n amlwg fod y Llywodraeth yng Nghymru wedi colli cyswllt llwyr gyda'r etholaeth a'r boblogaeth yng Nghymru.

Pan na fydd plant yn cael ei disgyblu'n briodol (ac y mae smacio plentyn yn UN ffordd o ddisgyblu) mae hyn yn gwneud niwed i'r plant, i deuluoedd ac i gymdeithas.

Y mae smacio yn gyfrwng i rybuddio plant cyn eu bod yn deall rhybuddion llafar. Bydd criminaleiddio smacio yn peryglu diogelwch plant.

 

1.3     A ydych yn credu bod angen deddfwriaeth i gyflawni’r hyn y mae’r Bil hwn yn ceisio’i gyflawni?

Nac oes.

Dylid caniatau i rieni smacio eu plant ar unrhyw adeg, heb y pryder o gosb gyfreithiol.

2      Gweithredu’r Bil

2.1     A oes gennych unrhyw sylwadau am unrhyw rwystrau posibl rhag gweithredu’r Bil? Os na, ewch i gwestiwn 3.1

-

2.2     A ydych yn credu bod y Bil yn ystyried y rhwystrau posibl hyn?

-

3      Canlyniadau anfwriadol

3.1     A ydych yn credu bod unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil? Os na, ewch i gwestiwn 4.1

Oes.

Drwy fabwysiadu bil o'r fath, bydd ymwelwyr o dramor ac o Loegr yn cadw draw o Gymru. Bydd cael deddf o'r fath yn cael effaith andwyol ar economi ein gwlad.

 

4      Goblygiadau ariannol

4.1     A oes gennych farn ar oblygiadau ariannol y Bil (fel y nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol)? Os na, ewch i gwestiwn 5.1

Gwastraff arian, adnoddau ac amser fydd mabwysiadu'r Bil hwn.

Bydd adnoddau prin yr heddlu, Gweithwyr Cymdeithasol a'r Llywodraeth (leol a chenedlaethol) yn cael eu hafradu yn gwbl ddiangen os daw'r Bil hwn i rym.

Gwarth ar Lywodraeth Cymru fydd hyn.

 

5      Ystyriaethau eraill

5.1     A oes gennych unrhyw bwyntiau eraill yr hoffech eu gwneud am y Bil hwn?

Mae'n bur debyg fod y Llywodraeth yn ymwybodol fod Sweden wedi gwahardd smacio yn 1979. O ganlyniad i hyn, cynyddodd trais ymhlith plant - yn enwedig trais un plentyn yn erbyn un arall. Ai dyma'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn dymuno ei wneud yng Nghymru hefyd?

Gwella cymdeithas yw nod Llywodraeth waraidd. Oherwydd diffyg doethineb, dealltwriaeth a diffyg arweiniad y mae Llywodraeth Cymru yn dadfeilio ein cymdeithas. Gwarth o beth.